Dalier Sylw: Rydym yn anfon a phrosesu archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn.

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    Dalier Sylw: Rydym yn anfon a phrosesu archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn.

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 18

  1. Llyfr Clwt: Anifeiliaid Bach y Fferm

    Llyfr Clwt: Anifeiliaid Bach y Fferm

    Llyfr yn cynnwys lluniau trawiadol a thestun rhyngweithiol sy'n odli. Cyfle gwych i gyffwrdd ac arbrofi gyda'r lluniau trawiadol a'r tudalennau defnydd meddal. 

    Gallwch ei olchi yn y peiriant golchi. Llyfr dwyieithog mewn bocs anrheg arbennig.

    *LLYFR CLWT: ANIFEILIAID Y FFERM A LLYFR CLWT: BABI PRYSUR AM £10.00*

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £6.99

    Pris Arbennig £4.99

  2. Broga Broga - Llyfr Pyped

    Broga Broga - Llyfr Pyped

    Llyfr stori ddwyieithog sy'n dod yn fyw gyda'r pyped Brog Broga!

    Stori am froga sydd wedi tyfu'n fawr ac sy'n chwilio am gartref newydd. Mae'n darganfod cartref braf gerllaw'r felin wynt, ond mae aderyn brawychus gerllaw. Mae'n darganfod safle braf ar ochr y ffordd, ond mae o'n rhy swnllyd! Tybed a fydd Brog Broga druan yn llwyddo i ganfod cartref cyn diwedd y stori?

    Llyfr pyped sy'n annog plant i ryngweithio ac ymateb, ac sy'n annog diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc iawn.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £9.99

    Pris Arbennig £7.99

  3. Llyfr Clwt: Babi Prysur

    Llyfr Clwt: Babi Prysur

    Llyfr yn cynnwys lluniau trawiadol a thestun rhyngweithiol sy'n odli. Cyfle gwych i gyffwrdd ac arbrofi gyda'r lluniau trawiadol a'r tudalennau defnydd meddal. 

    Gallwch ei olchi yn y peiriant golchi. Llyfr dwyieithog mewn bocs anrheg arbennig.

    *LLYFR CLWT: BABI PRYSUR A LLYFR CLWT: ANIFEILIAID Y FFERM AM £10.00*

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £6.99

    Pris Arbennig £4.99

  4. Chwarae Gyda Lliwiau

    Chwarae Gyda Lliwiau

    Llyfr bwrdd llawn lluniau lliwgar. Mae cyfle i godi fflapiau ac i gyffwrdd a theimlo gwahanol rannau o'r llyfr wrth ddysgu am liwiau.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  5. Mae'n Iawn Bod yn Wahanol

    Mae'n Iawn Bod yn Wahanol

    Llyfr stori dwyieithog cafodd ei ddatblygu ar y cyd gyda Mudiad Ysgolion Meithrin.

    Bwriad 'Mae'n Iawn bod yn Wahanol' ydy ysbrydoli plant (ac oedolion!) i ddathlu'r gwahaniaethau rhwng un plentyn a'r llall, a thrwy hynny dderbyn pawb fel y maen nhw a meithrin hunanhyder.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  6. Fy Antur i'r Lleuad!

    Fy Antur i'r Lleuad!

    Llyfr stori sy'n sôn am antur i'r lleuad gyda'r darllenydd yn rhan o'r stori!

    Addas i blant y Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfnod Sylfaen.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £4.99

    Pris Arbennig £3.99

  7. Alphaprints - Lliwiau

    Alphaprints - Lliwiau

    Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar a chyfoes, i blant bach cyn oed ysgol. Gyda delweddau trawiadol wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes a thestun crynno a syml, dyma gyfres sy'n siwr o ysbrydoli diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc. Lliwiau yw ffocws y llyfr hwn, ac mae'r delweddau a'r tudalennau sgleiniog yn ffordd hwyliog ac effeithiol o addysgu'r plant a'u paratoi ar gyfer yr ysgol. Mae llyfrau Alphaprints yn anrhegion arbennig a defnyddiol i blant bach. Dwyieithog. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  8. Codi Fflap: Pi-Po i ffwrdd â ni!

    Codi Fflap: Pi-Po i ffwrdd â ni!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.

    Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Alphaprints: Anifeiliaid Geiriau Croes

    Alphaprints: Anifeiliaid Geiriau Croes

    Llyfr bwrdd lliwgar yn y gyfres boblogaidd Alphaprints i'r plant lleiaf. Yn y llyfr cyffwrdd a theimlo hwm, bydd plant yn dysgu am eiriau croes trwy gwrdd nifer o anifeiliaid digri a hwyliog. Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £7.99

    Pris Arbennig £5.99

  10. Alphaprint - Cyw a'i ffrindiau

    Alphaprint - Cyw a'i ffrindiau

    Llyfr lliwgar dwyieithog fydd yn siwr o blesio plant bach. Cyfle i ddarllen penillion am yr anifeiliaid unigol tra'n cyffwrdd a theimlo'r darluniau hardd, wedi eu creu gydag olion bysedd! Mwy o wybodaeth
    £5.99

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 18