Mae Pi-Po Tractor yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.
Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!
Mwy o wybodaeth
Llyfr poblogaidd arall yng nghyfres Alphaprints. Dyma lyfr bwrdd lliwgar a doniol am griw o ddeinosoriaid difyr!
Mae pob deinosor yn cynrychioli siap gwahanol, ac mae'n ffordd wych o ddysgu'r plant am y siapiau mwyaf cyffredin.
Mae'r darluniau'n drawiadol, ac wedi eu creu gydag olion bysedd. Llyfr deniadol fydd yn siwr o blesio'r plant ifanc dro ar ôl tro.
Mwy o wybodaeth
Mae pob plentyn yn hoffi chwarae pi - po ac yn y llyfr dwyieithog hwn cewch gwrdd ag anifeiliaid sy'n cuddio dan y fflapiau!
Mae Pi-Po Fferm yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.
Mwy o wybodaeth
Llyfr stori sy'n sôn am antur i'r lleuad gyda'r darllenydd yn rhan o'r stori!
Addas i blant y Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfnod Sylfaen.
Mwy o wybodaeth
Llyfr bwrdd llawn lluniau lliwgar. Mae cyfle i godi fflapiau ac i gyffwrdd a theimlo gwahanol rannau o'r llyfr wrth ddysgu am liwiau.
Mwy o wybodaeth