Mae tyrau'r ddinas uchel yn tyfu'n uwch ac yn uwch bob dydd. Mae pawb yn gweithio ddydd a nos i adeiladu'r tŵr uchaf un. Pawb ond Petra.
Argraffiad dwyieithog o'n llyfr poblogaidd, Y Ddinas Uchel
Llyfr poblogaidd arall yng nghyfres Alphaprints. Dyma lyfr bwrdd lliwgar a doniol am griw o ddeinosoriaid difyr!
Mae pob deinosor yn cynrychioli siap gwahanol, ac mae'n ffordd wych o ddysgu'r plant am y siapiau mwyaf cyffredin.
Mae'r darluniau'n drawiadol, ac wedi eu creu gydag olion bysedd. Llyfr deniadol fydd yn siwr o blesio'r plant ifanc dro ar ôl tro.
Mwy o wybodaeth
Mae Pi-Po Tractor yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.
Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!
Mwy o wybodaeth
Mae pob plentyn yn hoffi chwarae pi - po ac yn y llyfr dwyieithog hwn cewch gwrdd ag anifeiliaid sy'n cuddio dan y fflapiau!
Mae Pi-Po Fferm yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.
Mwy o wybodaeth
Llyfr stori dwyieithog cafodd ei ddatblygu ar y cyd gyda Mudiad Ysgolion Meithrin.
Bwriad 'Mae'n Iawn bod yn Wahanol' ydy ysbrydoli plant (ac oedolion!) i ddathlu'r gwahaniaethau rhwng un plentyn a'r llall, a thrwy hynny dderbyn pawb fel y maen nhw a meithrin hunanhyder.
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!