Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar a chyfoes, i blant bach cyn oed ysgol. Gyda delweddau trawiadol wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes a thestun crynno a syml, dyma gyfres sy'n siwr o ysbrydoli diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc. Lliwiau yw ffocws y llyfr hwn, ac mae'r delweddau a'r tudalennau sgleiniog yn ffordd hwyliog ac effeithiol o addysgu'r plant a'u paratoi ar gyfer yr ysgol. Mae llyfrau Alphaprints yn anrhegion arbennig a defnyddiol i blant bach. Dwyieithog.
Mwy o wybodaeth