COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 18

  1. Pump Prysur: Pnawn Diog

    Pump Prysur: Pnawn Diog

    Addasiad Manon Steffan Ros o gyfres The Famous Five gan Enid Blyton.

    Yn y stori hon, mae'r 'Pump Prysur' yn dyheu am bnawn diog, ond ai felly mae hi fod! A beth mae'r dynion ar y motobeics yn ei wneud?.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  2. Pump Prysur: Antur Hanner Tymor

    Pump Prysur: Antur Hanner Tymor

    Mae Twm y ci yn amheus o'r bobl ar y trên. Beth sydd mor rhyfedd am un o'r teithwyr? A fydd y Pump yn medru datrys y dirgelwch?

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o un o lyfrau cyfres The Famous Five gan Enid Blyton.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  3. Pump Prysur: Twm yn Hela Cathod

    Pump Prysur: Twm yn Hela Cathod

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o gyfres The Famous Five gan Enid Blyton.

    Pan mae'r Pump Prysur ar eu ffordd i'r sinema mae Twm yn gweld cath a rhuthro ar ei hôl gan arwain y giang i dy gwag. Ydy'r ty yn hollol wag? Mae yna synau od iawn i'w clywed oddi yno..

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  4. Pump Prysur: Pump Mewn Penbleth

    Pump Prysur: Pump Mewn Penbleth

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o gyfres The Famous Five gan Enid Blyton.

    Mae Jo yn gweld golau ar Ynys Curig yng nghanol y nos. Dyma'r cliw cyntaf fod pobl ddieithr wedi glanio ar yr ynys. Pwy yw'r ymwelwyr hyn, a pham maen nhw ar yr ynys o gwbl?

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  5. Pump Prysur: Da Iawn Pump Prysur

    Pump Prysur: Da Iawn Pump Prysur

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o The Famous Five gan Enid Blyton.

    Un diwrnod, mae ceffyl rasio enwog yn diflannu a neb yn gwybod i ble mae'r ceffyl wedi mynd. Mae angen i'r Pump Prysur ddatrys y broblem...ond a fyddant yn llwyddo?!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  6. Pump Prysur: Nadolig Llawen

    Pump Prysur: Nadolig Llawen

    Mwy o anturiaethau'r Pump Prysur, addasiad Cymraeg Manon Steffan Ross o Famous Five gan Enid Blyton.

    Mae'n noswyl Nadolig ac mae'r Pump Prysur yn eiddgar i agor eu hanrhegion - yn arbennig Twm! Ond pan mae Twm yn dechrau cyfarth yn uchel, caiff ei anfon allan o'r ty. Ond mae 'na leidr yn y ty sydd am ddwyn yr anrhegion i gyd! Fydd Twm yn llwyddo i achub y sefyllfa?

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  7. Cyfres Darllen Difyr - Gem Cyfrifiadur

    Cyfres Darllen Difyr - Gem Cyfrifiadur

    Un mewn cyfres o lyfrau stori i ddisgyblion 7 i 9 oed ac oedolion sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae'n ddiwrnod Owain Glyndwr ac mae Sam, Serena, Ben a Taid Tat yn mynd i'r llyfrgell i chwarae ar y cyfrifiadur. Yn ystod y gem, mae'r plant yn dysgu cryn dipyn am arwr y Cymry. Mae rhestr o eiriau defnyddiol yng nghefn y llyfr I hwyluso'r profiad darllen. Mwy o wybodaeth
    £2.99

  8. Cyfres Darllen Difyr: Ddim Yma!

    Cyfres Darllen Difyr: Ddim Yma!

    Un mewn cyfres o lyfrau stori i ddisgyblion 7 i 9 oed ac oedolion sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Pan mae siop anifeiliaid anwes yn agor yn y dref, mae'r plant yn gyffrous...ond cyn hir mae pawb yn brysur yn chwilio am yr anifail sydd wedi dianc! Mae rhestr o eiriau defnyddiol yng nghefn y llyfr ihwyluso'r profiad darllen. Mwy o wybodaeth
    £2.99

  9. Cyfres Darllen Difyr: Mae Pawb Eisiau Gwersylla!

    Cyfres Darllen Difyr: Mae Pawb Eisiau Gwersylla!

    Un mewn cyfres o lyfrau stori i ddisgyblion 7 i 9 oed ac oedolion sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae Sam, Serena, Ben a'i ffrindiau yn hoffi gwersylla...ond yn anffodus nid yw popeth yn mynd yn iawn! Yn ffodus mae pawb yn mwynhau er gwaethaf yr anturiaethau! Mae rhestr o eiriau defnyddiol yng nghefn y llyfr I hwyluso'r profiad darllen. Mwy o wybodaeth
    £2.99

  10. Cyfres Darllen Difyr: Dydd Crempog!

    Cyfres Darllen Difyr: Dydd Crempog!

    Un mewn cyfres o lyfrau stori i ddisgyblion 7 i 9 oed ac oedolion sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae bwyd bistro Signor Bolgino bob amser yn flasus...ond NID ar Ddydd Crempog - mae'n ofnadwy! Tybed a fydd y plant yn darganfod pam yn ystod y ras crempogau?Mae rhestr o eiriau defnyddiol yng nghefn y llyfr I hwyluso'r profiad darllen. Mwy o wybodaeth
    £2.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 18