Dyma gyfle i chi ddilyn hynt a helynt bywyd ar y fferm drwy gydol y flwyddyn. O dymor y gwanwyn, drwy'r haf a'r hydref i dymor y gaeaf mae'r ffermwr yn brysur wrth ei waith.
Llyfr gyda 50 fflap llawn o wybodaeth diddorol.
Mwy o wybodaeth
** AILARGRAFFU AR HYN O BRYD **
Addasiad Cymraeg Mared Llwyd o 'Ten Little Princesses.'
Stori fywiog ar fydr ac odl sy'n cynnig cyfle i gyfarfod â hoff gymeriadau o fyd chwedlau tylwyth teg, megis Eira Wen, Hugan Fach Goch ac eraill, ac i chwilio am bethau difyr ar bob tudalen.
Out of stock
Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.
Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.
Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad o Hugless Douglas Plays Hide and Seek gan David Melling.
Mae Douglas a’i ffrindiau yn chwarae eu hoff gem – cuddio! Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn mynd ar goll wrth chwarae cuddio?
Mwy o wybodaeth
Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.
Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o Goose's Cake Bake gan Laura Wall.
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad o Grandpa Christmas gan Michael Morpurgo (darluniau gan Jim Field).
Bob Nadolig, mae Mia a’i theulu yn darllen llythyr oddi wrth Taid. Ynddo, mae Taid yn dymuno cael byd gwell i Mia. Mae’n cofio’r hwyl gawson nhw yn yr ardd gyda’r llyffantod a’r pryfed genwair ac yn plannu hadau. Ond mae Taid yn poeni am y pethau hyn. Mae’n poeni eu bod nhw mewn perygl, ac mae eisiau help Mia i ofalu amdanyn nhw.
Addasiad o Geronimo, llyfr stori a llun gan David Walliams (darluniau gan Tony Ross).
Mae Jeronimo yn bengwin bach sy’n ysu am gael hedfan. Gyda help llaw ei ffrindiau, mae’r pengwin bach yn darganfod fod unrhywbeth yn bosib!
Mwy o wybodaeth