Addasiad Eurig Salisbury o Hugless Douglas and the Baby Birds gan David Melling.
A fedri di gadw wy bach yn gynnes drwy roi cwtsh iddo? Daw Douglas o hyd i'r ateb wrth iddo ofalu am nyth Aderyn Dowcio.
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad dwyieithog o 'Goose on the Farm' gan Laura Wall.
Llyfr stori hyfryd i blant bach gyda delweddau lliwgar a chyfoes.Mae Soffi a Gŵydd yn mynd am drip i'r fferm... ac mewn byr amser fe ddaw yn ddiwrnod i'w gofio! Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes sy'n sôn am gyfeillgarwch.
Mwy o wybodaeth
Gŵydd - Addasiad dwyieithog o 'Goose' gan Laura Wall.
Llyfr stori dwyieithog i blant ifanc gyda lluniau lliwgar a thrawiadol. Pan mae Soffi yn cyfarfod Gŵydd ar drip i'r parc, mewn byr dro mae'r ddau yn ffrindiau mynwesol. Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes sy'n sôn am gyfeillgarwch.
Mwy o wybodaeth
Addasiad dwyieithog o 'Hugless Douglas' gan David Melling.
Weithiau, dim ond cwtsh mawr sy'n gwneud y tro. Mae Douglas yr arth fach frown eisiau cwtsh ... ond sut mae dod o hyd i'r cwtsh gorau yn y byd?
Mwy o wybodaeth
Mae gan Douglas broblem fawr, ond mae Douglas yn gwybod ei fod yn gallu dibynnu ar Dad!
Addasiad dwyieithog o 'Don't Worry, Hugless Douglas.'
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!
Addasiad dwyieithog o 'Milly the Meerkat' gan Oakley Graham.
Llyfr stori dwyieithog am Mili'r Mircat - anifail bach drygionus sy'n dod i ddysgu nad yw'n syniad da i ddweud celwydd.
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!
Mwy o wybodaeth
Addasiad dwyieithog o 'Hugless Douglas Goes to Little School' gan David Melling.
Mae Douglas, yr arth fach frown hoffus, yn cychwyn ar antur newydd sbon, antur mae pob plentyn bach yn ei brofi, diwrnod cyntaf yn yr ysgol!
Mwy o wybodaeth
Dewch i gwrdd â Cadi, camelion sydd wedi diflasu ar fod yn frown ac yn wyrdd trwy'r amser. Ond wrth iddi dynnu sylw ei ffrindiau, mae'n dysgu nad yw dangos ei hun yn beth da bob tro.
Llyfr stori dwyieithog i blant bach.
Mwy o wybodaeth
Wrth i fachgen bach ollwng carreg y mae newydd ei lliwio i'r dŵr, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd... 'Yn sydyn, roedd yna fflach o olau llachar a synau rhyfeddol. Neidiodd Peter yn ôl mewn rhyfeddod wrth weld pysgodyn lliwgar yn nofio yn y dŵr. Roedd carreg Peter wedi dod yn fyw!'
Llyfr stori dwyieithog i blant bach.
Mwy o wybodaeth