Mae Aled Tomos wrth ei fodd ag anturiaethau, felly mae’n llawn cyffro pan fydd ef a’i chwaer Rhian yn syrthio trwy wydr drych eu modryb ac yn glanio yn 1912. Mae gwibio ar hyd y lle mewn car gwefreiddiol o beryglus, darganfod creiriau hynafol a hyd yn oed ddal troseddwr neu ddau yn dipyn o hwyl! Ond mae angen iddyn nhw ddod o hyd i ffordd o fynd adre...
Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres antur fywiog sy’n mynd yn ôl mewn amser, gan yr awdures arobryn, SALLY NICHOLLS.
Mwy o wybodaeth
Regular Price: £6.99
Pris Arbennig £3.50
Addasiad gan Mared Llwyd o Billionaire Boy gan David Walliams.
Mae Twm yn byw breuddwyd pob plentyn 12 oed. Mae'n filiwnydd gyda'i ali fowlio, ei gar rasio, ei sinema a'i was ei hun, sydd yn orangwtang! Ond ni all arian brynu'r un peth mawr sydd ar goll ym mywyd Twm, sef ffrind!
Mwy o wybodaeth
Addasiad Iwan Huws o 'The Boy in a Dress' gan David Walliams.
Mae Dennis yn byw mewn tŷ cyffredin, ar stryd gyffredin, mewn tref gyffredin. Ond mae e ar fin camu ychydig y tu hwnt i ffiniau ei fywyd arferol, a gweld nad oes rhaid i bawb fyw’r un fath a’i gilydd.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o 'Awful Auntie' gan David Walliams.
Llyfr anturus a doniol am Swyn Plas y Sarnau, merch sydd ar fin etifeddu'r enwog Neuadd Sarnau. OND mae un peth sy'n ceisio rhwystro hyn rhag digwydd, sef Anti Afiach a'i thylluan anferth! Yn ffodus, mae gan Swyn gynllwyn...
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg Gruffudd Antur o 'Gangsta Granny' gan David Walliams.
Mae'n gas gan Ben aros yn nhŷ Nana Crwca bob nos Wener. Mae hi'n nain gyffredin ym mhob ffordd: gwallt gwyn, dannedd gosod, ac yn drewi o fresych. Ond mae ganddi gyfrinach arbennig iawn. Ychydig a wyddai Ben fod ei nain oedrannus yn lleidr gemwaith rhyngwladol!
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg Gruffudd Antur o 'Demon Dentist' gan David Walliams.
Digwyddai pethau od yn y dre ganol nos wrth i'r plant osod dant o dan y gobennydd, gan obeithio y byddai'r tylwyth teg yn galw heibio. Ond pethau digon erchyll oedd i'w cael yno erbyn y bore; gwlithen farw, pry cop, llygad ... ac mae rhywbeth amheus iawn am ddeintydd newydd y dre.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg Gruffudd Antur o Mr Stink gan David Walliams.
Yn y llyfr hwn cawn glywed am hanes Lois, merch unig a dihyder. Un diwrnod, mae'n cwrdd â Mr Ffiaidd, y trempyn lleol, ac er ei fod yn drewi braidd, fu neb erioed mor garedig wrthi.
Mwy o wybodaeth
Pecyn yn cynnwys Anti Afiach, Y Bachgen Mewn Ffrog ac Y Biliwnydd Bach, addasiadau o lyfrau poblogaidd David Walliams.
Mwy o wybodaeth