• MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 55

  1. Jeronimo

    Jeronimo

    Addasiad o Geronimo, llyfr stori a llun gan David Walliams (darluniau gan Tony Ross).

    Mae Jeronimo yn bengwin bach sy’n ysu am gael hedfan. Gyda help llaw ei ffrindiau, mae’r pengwin bach yn darganfod fod unrhywbeth yn bosib!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Douglas yn Chwarae Cuddio

    Douglas yn Chwarae Cuddio

    Addasiad o Hugless Douglas Plays Hide and Seek gan David Melling.

    Mae Douglas a’i ffrindiau yn chwarae eu hoff gem – cuddio! Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn mynd ar goll wrth chwarae cuddio?

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Anrheg Nadolig Taid

    Anrheg Nadolig Taid

    Addasiad o Grandpa Christmas gan Michael Morpurgo (darluniau gan Jim Field).

    Bob Nadolig, mae Mia a’i theulu yn darllen llythyr oddi wrth Taid. Ynddo, mae Taid yn dymuno cael byd gwell i Mia. Mae’n cofio’r hwyl gawson nhw yn yr ardd gyda’r llyffantod a’r pryfed genwair ac yn plannu hadau. Ond mae Taid yn poeni am y pethau hyn. Mae’n poeni eu bod nhw mewn perygl, ac mae eisiau help Mia i ofalu amdanyn nhw.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  4. Dyma ni - Sut i fyw ar y Ddaear

    Dyma ni - Sut i fyw ar y Ddaear

    Gall y byd hwn fod yn lle dryslyd iawn weithiau, yn enwedig os wyt ti newydd gyrraedd. Tyrd i weld y blaned lle ry'n ni'n byw, er mwyn ateb rhai o'r cwestiynau sy'n berwi yn dy ben. O'r tir a'r môr i bobl ac amser, gall y llyfr hwn dy roi ar ben ffordd. Byddi di'n dod i ddeall rhai pethau ar dy ben dy hun hefyd. Ond cofia adael nodiadau ar gyfer pawb arall... Gall ein planed ni fod yn lle cymhleth iawn weithiau, ond gall fod yn syml iawn hefyd: mae llawer ohonon ni yma, felly bydd yn garedig. Mwy o wybodaeth
    £12.99

  5. Codi Fflap: Pi-Po Mam T. Rex

    Codi Fflap: Pi-Po Mam T. Rex

    Allwch chi ddod o hyd i Mami T.rex yn cuddio tu ôl i'r fflapiau Gwyliwch rhag ofn bydd deinosoriaid bach yn neidio allan!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Allwch chi ddod o hyd i Sgodyn Streipiog a'i ffrindiau'n cuddio tu ôl i'r fflapiau? Gwyliwch rhag ofn iddyn nhw neidio allan!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Gŵydd a'i Gacennau

    Gŵydd a'i Gacennau

    Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o Goose's Cake Bake gan Laura Wall.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Sgubo

    Sgubo

    Addasiad Eurig Salisbury o Sweep gan Louise Greig.

    Mae hwyliau drwg Daf bob tro'n dechrau'n fach, fach. Ond ymhen dim, maen nhw'n cyflymu nes eu bod nhw'n sgubo drwy'r dre i gyd. Stori yw hon am blentyn sy'n delio ag emosiynau mawr, a stori i godi'r galon.

     

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  9. Yr Arth Aruthrol

    Yr Arth Aruthrol

    Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.

    Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.

    Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Douglas a'r Cywion Ciwt

    Douglas a'r Cywion Ciwt

    Addasiad Eurig Salisbury o Hugless Douglas and the Baby Birds gan David Melling.

    A fedri di gadw wy bach yn gynnes drwy roi cwtsh iddo? Daw Douglas o hyd i'r ateb wrth iddo ofalu am nyth Aderyn Dowcio.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 55