COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 52

  1. Cwmwl Bach / Little Cloud

    Cwmwl Bach / Little Cloud

    Mae pawb wrth eu bodd yn edrych ar y cwmwl bach gwyn gan ei fod yn gwneud pob math o siapiau diddorol, ond un diwrnod mae'r cwmwl bach yn mynd yn fwy ac yn dywyllach ac yn drymach. Wrth i'r diferion o law ddisgyn, mae pawb yn rhedeg i ffwrdd ac nid oes unrhyw un yn hapus i weld y cwmwl bach bellach… neu ydyn nhw? Mae gan y stori galonogol, ddyrchafol hon neges bwerus am gael eich caru a'ch derbyn am bwy ydych chi. Llyfr stori a llun hyfryd ar gyfer helpu i drafod emosiynau a chyflwyno'r cylchred dŵr i blant dan 7 oed. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Y Ddinas Uchel / The Builders

    Y Ddinas Uchel / The Builders

    Mae tyrau'r ddinas uchel yn tyfu'n uwch ac yn uwch bob dydd. Mae pawb yn gweithio ddydd a nos i adeiladu'r tŵr uchaf un. Pawb ond Petra.

    Argraffiad dwyieithog o'n llyfr poblogaidd, Y Ddinas Uchel

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Branwen

    Branwen

    Mae’r llyfr hwn yn gynrychiolaeth graffig o ail gangen y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr. Nod y llyfr yw cyflwyno plant a phobl ifanc i’r chwedl, ac i ail-ddweud y stori mewn ffordd weledol ac emosiynol i gynulleidfaoedd newydd gan ddefnyddio gwaith celf sy’n deillio o arteffactau hanesyddol go iawn.

    • Testun dwyieithog
    • Arlunwaith lliwgar, llachar a thrawiadol gyda chyfeiriadau cynnil at fywyd Celtaidd hynafol

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Douglas a'r Cywion Ciwt

    Douglas a'r Cywion Ciwt

    Addasiad Eurig Salisbury o Hugless Douglas and the Baby Birds gan David Melling.

    A fedri di gadw wy bach yn gynnes drwy roi cwtsh iddo? Daw Douglas o hyd i'r ateb wrth iddo ofalu am nyth Aderyn Dowcio.

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  5. Yr Arth Aruthrol

    Yr Arth Aruthrol

    Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.

    Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.

    Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Sgubo

    Sgubo

    Addasiad Eurig Salisbury o Sweep gan Louise Greig.

    Mae hwyliau drwg Daf bob tro'n dechrau'n fach, fach. Ond ymhen dim, maen nhw'n cyflymu nes eu bod nhw'n sgubo drwy'r dre i gyd. Stori yw hon am blentyn sy'n delio ag emosiynau mawr, a stori i godi'r galon.

    Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!

     

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  7. Gŵydd a'i Gacennau

    Gŵydd a'i Gacennau

    Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o Goose's Cake Bake gan Laura Wall.

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Allwch chi ddod o hyd i Sgodyn Streipiog a'i ffrindiau'n cuddio tu ôl i'r fflapiau? Gwyliwch rhag ofn iddyn nhw neidio allan!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Codi Fflap: Pi-Po Mam T. Rex

    Codi Fflap: Pi-Po Mam T. Rex

    Allwch chi ddod o hyd i Mami T.rex yn cuddio tu ôl i'r fflapiau Gwyliwch rhag ofn bydd deinosoriaid bach yn neidio allan!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Ti… / You…

    Ti… / You…

    Addasiad dwyieithog o You... gan Emma Dodd.

    “Rwy’n dy garu di i gyd,
    llygaid a thrwyn a chlustiau. Rwy’n dy garu di i gyd,
    o dy ben i flaen dy fodiau.”

    Mae’r awdur a’r darlunydd arobryn Emma Dodd yn mynd â ni ar daith trwy’r jyngl yn y rhandaliad hwn o’i chyfres llyfrau sotri a llun poblogaidd, lle rydyn ni’n dod o hyd i fwnci bach doniol sydd â rhywun sy’n ei garu fwy a mwy bob dydd.

    • Testun dwyieithog sy’n odli
    • Arlunwaith lliwgar gyda ffoil aur ar bob yn ail dudalen
    • Stori wedi ei hadrodd yn syml
    • Llyfr hyfryd i’w darllen ar y cyd a rhannu llawenydd bywyd

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 52