Llyfr stori a llun gwreiddiol, sy’n dilyn Michewa, merch 7 oed. Un diwrnod i brofi ei hun i’w thad (sy’n Dywysydd Mynydd llwyddiannus) mae hi’n mynd ati i ddringo’r ‘Mynydd Unig’ ger ei phentref coedwig yn Tibet. Mae’r mynydd penodol hwn wedi’i orchuddio â dirgelwch a pherygl. Fodd bynnag, mae hi’n benderfynol o ddringo’r mynydd ac yn llenwi ei bag gydag eitemau hanfodol a llinyn o fflagiau gweddi y mae’n bwriadu eu gosod ar y copa. Pan ddaw eirlithriad, storm a chwymp eira, datgelir cyfrinach yn y lluniau sy’n ei hachub bob tro ac yn y pen draw yn ei dychwelyd i ymyl y goedwig.
Stori syml yw hon sy’n cyflwyno emosiynau fel unigedd, edifarhad a rhyddhad ynghyd â nodweddion amgylcheddol a chyfeiriadau diwylliannol newydd, gan greu antur gyffrous sy’n procio’r meddwl.
** Testun Saesneg ar gael yng nghefn y llyfr **
Cyfrol annwyl a theimladwy cyn mynd i gysgu wrth i riant gyflwyno rhai o ryfeddodau’r byd i’w plentyn. Dilynwn y dydd o’r wawr i’r machlud wrth i ni ddarllen am y rhyfeddodau sydd ar gael i’w profi. Digwydd hyn trwy ddefnyddio’r pum synnwyr fel modd o ddangos yr ystod o brofiadau sydd i’w cael ynghanol byd natur.
Elfennau cyfarwydd i blant Cymru sydd yma (plant y wlad a’r ddinas hefyd) - pethau fel teimlo dail yr hydref dan draed, arogli rhosod a blasu mwyar duon. Mae’r delweddau sensitif o anifeiliaid y môr, y tir a’r awyr yn rhai annwyl a hoffus ac at chwaeth plant ifanc.
Egyr y llyfr gyda sbloets o liw wrth i ni weld yr haul yn gwawrio. Erbyn y dudalen olaf, mae’r lliwiau wedi pylu wrth iddi nosi ar derfyn y dydd.
Daw hen chwedl yn fyw yn y stori antur fodern hon. Lleolir y nofel ger Aberaeron a dilynwn Daisy, merch 11 oed, a’i theulu ar ôl iddynt symud o’r gogledd i redeg ganolfan arddio yn yr ardal.
Un diwrnod, mae Daisy yn benthyg llyfr chwedlau eithaf cyffredin ei olwg o’r Ffair Lyfrau flynyddol yn yr ysgol. Nid oes ganddi fawr o obaith am y llyfr anniddorol, nes iddi gael ei thaflu oddi ar ei beic ar ei thaith adref o’r ysgol... dyna pryd mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd! Wrth ddychwelyd adref, yn dilyn ei gwrthdrawiad ar y beic, mae Daisy yn argyhoeddedig ei bod wedi cwrdd â Mari Perllan Pedr, gwrach o chwedl leol adnabyddus. Ond sut y gall hynny fod yn bosib?
Dilynwch antur ddirgel Daisy wrth iddi geisio darganfod y gwir a chesio achub busnes ei theulu yn Arthen Fach ar yr un pryd.
• Y cyntaf mewn cyfres newydd i blant
• 14 pennod byr, bachog
• Stori gyffrous, llawn dirgelwch a fydd yn siwr o fachu sylw’r darllenydd
• Themâu amgylcheddol cyfredol fel ffracio wedi’u plethu’n yn llwyddiannus i mewn i’r stori