COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 89

  1. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a'r Cefnogwr Pêl-Droed

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a'r Cefnogwr Pêl-Droed

    Addasiad o 'Horrid Henry and the Football Fiend'. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  2. Llyfrau Henri Helynt: Cracyr Nadolig Henri Helynt

    Llyfrau Henri Helynt: Cracyr Nadolig Henri Helynt

    Addasiad o 'Horrid Henry's Christmas Cracker'. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  3. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a'r Dyn Eira Erchyll

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a'r Dyn Eira Erchyll

    Addasiad o 'Horrid Henry and the Abominable Snowman'. Drygionus tu hwnt; clyfar drost ben. Bydd ei driciau dieflig yn gwneud i ti chwerthin, nes wyt ti'n sâl. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  4. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt yn Dwyn o'r Banc

  5. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a Melltith y Mymi

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a Melltith y Mymi

    Gwalch drwg yw Henri, ond mae e'n hwyl! Addasiad Cymraeg o un o lyfrau'r 'Horrid Henry' (Horrid Henry and the Mummy's Curse). Llyfrau darllen hwyliog ar gyfer CA2 - pedair stori fer ym mhob cyfrol. Addas i ddarllenwyr rhwng 7-9 oed. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  6. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt yn Dial

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt yn Dial

    Gwalch drwg yw Henri, ond mae e'n hwyl! Addasiad Cymraeg o un o lyfrau'r gyfres 'Horrid Henry' (Horrid Henry's Revenge). Llyfrau darllen hwyliog ar gyfer CA2 - pedair stori fer ym mhob cyfrol. Addas i ddarllenwyr rhwng 7-9 oed. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  7. Gwag y Nos

    Gwag y Nos

    'Dim ond un rebel sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth. A ti ydy honno, Magi.' Yn 1867 mae bywyd yn anodd, ac os wyt ti'n dlawd mae’n uffern. Ers i Magi Bryn Melys symud i Wyrcws Gwag y Nos, mae hi wedi bod yn ddraenen yn ystlys Nyrs Jenat. Ond mae bod yn rebel yn beryglus, ac un bore mae pethau'n dechrau mynd o ddrwg i waeth i Magi. Mae'n amlwg bod rhywbeth mawr iawn o'i le yn y Wyrcws, ond pwy sydd ar fai? A fydd Magi'r rebel yn llwyddo i achub ei ffrindiau a datrys cyfrinach dywyll Gwag y Nos? Dyma ei stori hi ... Nofel antur Fictoraidd, llawn dirgel a plot sy’n parhau i droelli hyd at y diwedd! Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Chwedlau'r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd

    Chwedlau'r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd

    Mae cyfres Chwedlau’r Copa Coch yn parhau, ac ar ôl trechu bwystfil hunllefus yn Yr Horwth, mae arwyr y Copa Coch bellach yn wynebu perygl llawer mwy. Y melltith yn y mynydd... Mae blwyddyn wedi pasio. Wrth i Sara, Pietro, Heti a Nad wneud eu gorau i ymgartrefu ar lethrau'r Copa Coch, mae'r ysbrydion maleisus sy'n llechu yng nghrombil y mynydd yn dianc o'u cartref tywyll a bygwth y pentref newydd. Dim ond un peth sydd i'w wneud: mentro i'r crombil mewn ymgais orffwyll i ddifa’r ysbrydion, unwaith ac am byth. Yn fuan iawn mae’r criw yn cael eu gwahanu – Pietro yn cael ei feddiannu gan ysbryd milwr o’r gorffennol pell; Sara a Nad yn cychwyn ar daith i’w achub drwy’r ddinas danddaearol o dan y mynydd; a Heti, yn ei thro, yn dilyn yn eu holion traed hwythau, yng nghwmni cantores o wlad bell... a’r allwedd i ddatgloi cyfrinachau'r mynydd. A thra bod ei gyfeillion yn gwneud eu gorau i’w achub, mae Pietro yn ailfyw brwydr dyngedfennol gafodd ei hymladd ar y mynydd fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, yn cyfarfod arwyr a dihirod wedi hen farw, ac yn dod i ddysgu bod y Copa Coch yn llawer pwysicach nac oedd neb wedi ei sylweddoli... • Nofel ffantasi i bobl ifanc • Parhau â'r stori epig a llawn hiwmor gafodd ei chychwyn yn Yr Horwth • Perffaith i'r rheiny sy’n hoff o antur, brwydrau, ysbrydion, perygl, a chrancod mawr bwystfilaidd. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  9. Petai’r Byd i Gyd Yn...

    Petai’r Byd i Gyd Yn...

    Mae Taid yn rhoi pensil lliwiau’r enfys i mi. “Ysgrifenna a thynna luniau, ysgrifenna a thynna luniau dy freuddwydion di i gyd.” Llyfr lluniau annwyl am y cariad rhwng merch fach a’i thaid, ac am gadw’r cariad yn fyw trwy atgofion. Y testun gan y bardd o fri Joseph Coelho a’r darluniau gan yr artist a’r dylunydd Allison Colpoys. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Michewa a'r Mynydd

    Michewa a'r Mynydd

    Llyfr stori a llun gwreiddiol, sy’n dilyn Michewa, merch 7 oed. Un diwrnod i brofi ei hun i’w thad (sy’n Dywysydd Mynydd llwyddiannus) mae hi’n mynd ati i ddringo’r ‘Mynydd Unig’ ger ei phentref coedwig yn Tibet. Mae’r mynydd penodol hwn wedi’i orchuddio â dirgelwch a pherygl. Fodd bynnag, mae hi’n benderfynol o ddringo’r mynydd ac yn llenwi ei bag gydag eitemau hanfodol a llinyn o fflagiau gweddi y mae’n bwriadu eu gosod ar y copa. Pan ddaw eirlithriad, storm a chwymp eira, datgelir cyfrinach yn y lluniau sy’n ei hachub bob tro ac yn y pen draw yn ei dychwelyd i ymyl y goedwig.

    Stori syml yw hon sy’n cyflwyno emosiynau fel unigedd, edifarhad a rhyddhad ynghyd â nodweddion amgylcheddol a chyfeiriadau diwylliannol newydd, gan greu antur gyffrous sy’n procio’r meddwl.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 89