COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Descending Direction

Grid List

21-30 o 86

  1. Y Gwningen a'r Arth: Beth yn y Byd?

    Y Gwningen a'r Arth: Beth yn y Byd?

    Addasiad Cymraeg o Rabbit & Bear: Pest in the Nest gan Julian Gough. Dyma’r ail lyfr mewn cyfres.

    “LLONYDD A THAWELWCH,” gwaeddodd y Gwningen, “DYNA’R CYFAN DWI EISIAU.”

    Rhwng chwyrnu ei ffrind, yr Arth, a sŵn CNOC, CNOC, CNOC ar frig y goeden, mae’r Gwningen yn gwybod bod yn Rhaid Gwneud Rhywbeth. Ond i fyny yn y canghennau, efallai y gall yr Arth ddangos i’r Gwningen sut i weld y byd mewn ffordd wahanol. Stori am gyfeillgarwch, doethineb a sut i fod yn SWNLLYD IAWN.

    “Stori sy’n gwneud ichi chwerthin yn uchel.” NEIL GAIMAN

    “Dylai hwn ddod yn glasur modern. Beiddgar, difyr a doniol.” EOIN COLFER

    • Darluniau gwych gan Jim Field ar bob tudalen
    • Mae hon yn stori am gyfeillgarwch, doethineb, a sut i fod yn SWNLLYD IAWN!
    • Yn ddelfrydol ar gyfer darllenwyr sy’n symud ymlaen o lyfrau lluniau.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a'r Clwb Dirgel

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a'r Clwb Dirgel

    Addasiad Cymraeg o Horrid Henry and the Secret Club. Pedair o straeon am anturiaethau teulu Henri Helynt, ei frawd iau, Alun Angel, a'u rhieni, gan gynnwys, y stori 'Henri Helynt a'r Clwb Dirgel'. Addas i ddarllenwyr rhwng 7-9 oed. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  3. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt

    Addasiad Cymraeg o Horrid Henry. Pedair o straeon am anturiaethau teulu Henri Helynt, ei frawd iau, Alun Angel, a'u rhieni, gan gynnwys y stori 'Henri Helynt'. Addas i ddarllenwyr rhwng 7-9 oed. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  4. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt yn Dial

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt yn Dial

    Gwalch drwg yw Henri, ond mae e'n hwyl! Addasiad Cymraeg o un o lyfrau'r gyfres 'Horrid Henry' (Horrid Henry's Revenge). Llyfrau darllen hwyliog ar gyfer CA2 - pedair stori fer ym mhob cyfrol. Addas i ddarllenwyr rhwng 7-9 oed. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  5. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a Melltith y Mymi

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a Melltith y Mymi

    Gwalch drwg yw Henri, ond mae e'n hwyl! Addasiad Cymraeg o un o lyfrau'r 'Horrid Henry' (Horrid Henry and the Mummy's Curse). Llyfrau darllen hwyliog ar gyfer CA2 - pedair stori fer ym mhob cyfrol. Addas i ddarllenwyr rhwng 7-9 oed. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  6. Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart

    Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart

    Mae Ffred a’i ffwlbart yn ffrindiau gorau
    ond digwyddodd rhywbeth od un bore
    wnaeth newid lliw trwyn Anti Gyrti –
    ar fy ngwir! Dyma’r stori ...

    Dewch i gwrdd â Ffred a’i ffwlbart yn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau stori-a-llun am ffrindiau bach direidus.

    Stori llawn hwyl gyda thestun sy’n odli yn seiliedig ar un o’n dywediadau Cymraeg mwyaf od!

    Stori gan Sioned Wyn Roberts. Arlunwaith Bethan Mai.

    Mae cyfle isod i chi gwrdd â Sioned Wyn Roberts a Bethan Mai, awdur ac arlunydd y llyfr! Fe gawn glywed beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r llyfr a chawn flas ar y stori unigryw sy’n mynd â ni ar antur i ddatrys problem ddrewllyd iawn...

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Hufen Afiach

    Hufen Afiach

    Nofel i blant 7-11 oed gan Meilyr Sion. Antur llawn hiwmor am Sali Seimllyd, Seimon Smwts, Poli Peswch Pen Ôl a Wili Silibili sy’n ffurfio’r Pedwarawd Pwerus i gesio achub trigolion Cwm Cwstard rhag y cawr mawr cas, Beli Bola Mawr! Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Trio ac Antur y Castell

    Trio ac Antur y Castell

    Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!

    Mae rhywun yn bwriadu dymchwel Castell Caernarfon a’i droi yn fwyty enfawr! Gwaith TRIO yw darbwyllo’r perchennog newydd i adael llonydd i’r castell, ond mae hynny’n fwy anodd na mae o’n swnio!

    Yr ail nofel yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Trio ac Antur y Mileniwm

    Trio ac Antur y Mileniwm

    Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!

    Mae TRIO yn cael mynd ar drip i Gaerdydd i weld sioe. Ond O, mam bach! Mae rhywun wedi newid yr ysgrifen ar Ganolfan y Mileniwm! Mae hon yn antur berffaith i TRIO, y triawd mwyaf dwl yng Nghymru!

    Y nofel gyntaf yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron! 

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Dad Drwg

    Dad Drwg

    Addasiad gan Dewi Wyn Williams o Bad Dad gan David Walliams.

    Antur gyffrous am berthynas glos rhwng Deio a'i dad wrth iddyn nhw geisio ennill brwydr yn erbyn y dihiryn drwg, Leni'r Lwmp!

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

    Out of stock

Set Descending Direction

Grid List

21-30 o 86