COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Descending Direction

Grid List

41-50 o 86

  1. Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

    Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

    “Yng nghysgodion yr ogof roedd yr Horwth yn cuddio.”

     Mae bwystfil yn bygwth y wlad. Creadur yn syth o ganol hunllef. Yr Horwth.

     Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae’r llwybr yn arwain at y Copa Coch – mynydd sy’n taflu cysgod brawychus dros y tir … ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i’r teithwyr eu datgelu.

     Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc – ac i unrhyw un hŷn sy’n hoff o antur.

    "Y cyntaf mewn cyfres o lyfrau ffantasi wedi’u hanelu at bobol ifanc, mae’r llyfr hwn yn cyfuno cynnwrf, antur a hiwmor a bydd yn anodd rhoi’r llyfr I lawr o’r frawddeg gyntaf. Mae’r darluniau yn rhan yr un mor bwysig o’r stori â’r testun."

    WELSH BOOKS FOR YOUNG PEOPLE – THE BEST OF 2019
    Wales Arts Review

    Dyma'r Horwth yn cael sylw yn narllediad Heno S4C yn 'Sioe Diwrnod y Llyfr'!


    Gwrandewch ar ragflas o'r llyfr isod:

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Y Biliwnydd Bach

    Y Biliwnydd Bach

    Addasiad gan Mared Llwyd o Billionaire Boy gan David Walliams.

    Mae Twm yn byw breuddwyd pob plentyn 12 oed. Mae'n filiwnydd gyda'i ali fowlio, ei gar rasio, ei sinema a'i was ei hun, sydd yn orangwtang! Ond ni all arian brynu'r un peth mawr sydd ar goll ym mywyd Twm, sef ffrind!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Y Bachgen Mewn Ffrog

    Y Bachgen Mewn Ffrog

    Addasiad Iwan Huws o 'The Boy in a Dress' gan David Walliams.

    Mae Dennis yn byw mewn tŷ cyffredin, ar stryd gyffredin, mewn tref gyffredin. Ond mae e ar fin camu ychydig y tu hwnt i ffiniau ei fywyd arferol, a gweld nad oes rhaid i bawb fyw’r un fath a’i gilydd.

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Anti Afiach

    Anti Afiach

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o 'Awful Auntie' gan David Walliams.

    Llyfr anturus a doniol am Swyn Plas y Sarnau, merch sydd ar fin etifeddu'r enwog Neuadd Sarnau. OND mae un peth sy'n ceisio rhwystro hyn rhag digwydd, sef Anti Afiach a'i thylluan anferth! Yn ffodus, mae gan Swyn gynllwyn...

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  5. Cyfrinach Nana Crwca

    Cyfrinach Nana Crwca

    Addasiad Cymraeg Gruffudd Antur o 'Gangsta Granny' gan David Walliams.

    Mae'n gas gan Ben aros yn nhŷ Nana Crwca bob nos Wener. Mae hi'n nain gyffredin ym mhob ffordd: gwallt gwyn, dannedd gosod, ac yn drewi o fresych. Ond mae ganddi gyfrinach arbennig iawn. Ychydig a wyddai Ben fod ei nain oedrannus yn lleidr gemwaith rhyngwladol!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Deintydd Dieflig

    Deintydd Dieflig

    Addasiad Cymraeg Gruffudd Antur o 'Demon Dentist' gan David Walliams.

    Digwyddai pethau od yn y dre ganol nos wrth i'r plant osod dant o dan y gobennydd, gan obeithio y byddai'r tylwyth teg yn galw heibio. Ond pethau digon erchyll oedd i'w cael yno erbyn y bore; gwlithen farw, pry cop, llygad ... ac mae rhywbeth amheus iawn am ddeintydd newydd y dre.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Mr Ffiaidd

    Mr Ffiaidd

    Addasiad Cymraeg Gruffudd Antur o Mr Stink gan David Walliams.

    Yn y llyfr hwn cawn glywed am hanes Lois, merch unig a dihyder. Un diwrnod, mae'n cwrdd â Mr Ffiaidd, y trempyn lleol, ac er ei fod yn drewi braidd, fu neb erioed mor garedig wrthi.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Pump Prysur: Pnawn Diog

    Pump Prysur: Pnawn Diog

    Addasiad Manon Steffan Ros o gyfres The Famous Five gan Enid Blyton.

    Yn y stori hon, mae'r 'Pump Prysur' yn dyheu am bnawn diog, ond ai felly mae hi fod! A beth mae'r dynion ar y motobeics yn ei wneud?.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  9. Pump Prysur: Antur Hanner Tymor

    Pump Prysur: Antur Hanner Tymor

    Mae Twm y ci yn amheus o'r bobl ar y trên. Beth sydd mor rhyfedd am un o'r teithwyr? A fydd y Pump yn medru datrys y dirgelwch?

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o un o lyfrau cyfres The Famous Five gan Enid Blyton.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  10. Byd y Goeden Ffwrdd-â-Ni: Gwlad y Pethau Da

    Byd y Goeden Ffwrdd-â-Ni: Gwlad y Pethau Da

    Addasiad Manon Steffan Ros o gyfres The Magic Faraway Tree gan Enid Blyton.

    Cyhoeddwyd cyfres The Magic Faraway Tree dros 75 mlynedd yn ôl, ac mae'r gyfres yma'n addasiad cyfoes o'r llyfrau gwreiddiol, gyda lluniau lliwgar a llai o destun.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

Set Descending Direction

Grid List

41-50 o 86