“Yng nghysgodion yr ogof roedd yr Horwth yn cuddio.”
Mae bwystfil yn bygwth y wlad. Creadur yn syth o ganol hunllef. Yr Horwth.
Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae’r llwybr yn arwain at y Copa Coch – mynydd sy’n taflu cysgod brawychus dros y tir … ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i’r teithwyr eu datgelu.
Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc – ac i unrhyw un hŷn sy’n hoff o antur.
"Y cyntaf mewn cyfres o lyfrau ffantasi wedi’u hanelu at bobol ifanc, mae’r llyfr hwn yn cyfuno cynnwrf, antur a hiwmor a bydd yn anodd rhoi’r llyfr I lawr o’r frawddeg gyntaf. Mae’r darluniau yn rhan yr un mor bwysig o’r stori â’r testun."
WELSH BOOKS FOR YOUNG PEOPLE – THE BEST OF 2019
Wales Arts Review
Dyma'r Horwth yn cael sylw yn narllediad Heno S4C yn 'Sioe Diwrnod y Llyfr'!
Gwrandewch ar ragflas o'r llyfr isod:
Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd.
Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd.
Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!
Mwy o wybodaeth
Addasiad gan Dewi Wyn Williams o Bad Dad gan David Walliams.
Antur gyffrous am berthynas glos rhwng Deio a'i dad wrth iddyn nhw geisio ennill brwydr yn erbyn y dihiryn drwg, Leni'r Lwmp!
Mwy o wybodaethOut of stock
Addasaid Cymraeg gan Bethan Gwanas o nofel ffantasi arloesol i bobl ifanc gan Alan Garner. Stori arswyd grefftus, sy'n dilyn trywydd tri o bobl ifanc sy'n cael eu gorfodi i ail-greu chwedl Blodeuwedd.
Mwy o wybodaeth
Un mewn cyfres o 6 llyfr ffeithiol a chyfoes ar gyfer disgyblion 10 i 14 oed. Cyfres sy'n cyflwyno ffeithiau mewn ffordd anffurfiol, darllenadwy a difyr.
Mae'r llyfr hwn yn canolbwyntio ar fyd y showbiz a bod ynenwog. Mae'r gyfres yn ffocysu ar themu amrywiol o ddiddordeb ibobl ifanc megis y we a thechnoleg digidol, mentro, anifeiliaid mewn perygl, edrych ar ol yr amgylchfyd a pwyso a mesur.
Mwy o wybodaeth
Out of stock
Addasiad Efa Mared Edwards o'r nofel Longbow Girl gan Linda Davies.
Wedi ei lleoli yn harddwch Bannau Brycheiniog, lle magwyd Linda Davies, mae'r stori yn adrodd hanes Mari Owen, merch ddewr a phenderfynol ac un sy'n giamstar ar ddefnyddio'r bwa hir.
Mwy o wybodaeth