COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 58

  1. Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd.

    Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd.

    Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...

    Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.

    3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal

    Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!



    Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!

    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  3. Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

    Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

    “Yng nghysgodion yr ogof roedd yr Horwth yn cuddio.”

     Mae bwystfil yn bygwth y wlad. Creadur yn syth o ganol hunllef. Yr Horwth.

     Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae’r llwybr yn arwain at y Copa Coch – mynydd sy’n taflu cysgod brawychus dros y tir … ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i’r teithwyr eu datgelu.

     Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc – ac i unrhyw un hŷn sy’n hoff o antur.

    "Y cyntaf mewn cyfres o lyfrau ffantasi wedi’u hanelu at bobol ifanc, mae’r llyfr hwn yn cyfuno cynnwrf, antur a hiwmor a bydd yn anodd rhoi’r llyfr I lawr o’r frawddeg gyntaf. Mae’r darluniau yn rhan yr un mor bwysig o’r stori â’r testun."

    WELSH BOOKS FOR YOUNG PEOPLE – THE BEST OF 2019
    Wales Arts Review

    Dyma'r Horwth yn cael sylw yn narllediad Heno S4C yn 'Sioe Diwrnod y Llyfr'!


    Gwrandewch ar ragflas o'r llyfr isod:

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  4. Dad Drwg

    Dad Drwg

    Addasiad gan Dewi Wyn Williams o Bad Dad gan David Walliams.

    Antur gyffrous am berthynas glos rhwng Deio a'i dad wrth iddyn nhw geisio ennill brwydr yn erbyn y dihiryn drwg, Leni'r Lwmp!

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  5. Plant Gwaetha'r Byd

    Plant Gwaetha'r Byd

    Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o The World's Worst Children gan David Walliams. Agorwch y llyfr afiach hwn i glywed hanesion pump o ferched ofnadwy a phump o fechgyn boncyrs! Daw'r gyfrol yma o straeon byrion digri gan David Walliams, un o nofelwyr plant mwyaf poblogaidd y byd, a Tony Ross, arlunydd byd-enwog. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  6. Llestri'r Dylluan

    Llestri'r Dylluan

    Addasaid Cymraeg gan Bethan Gwanas o nofel ffantasi arloesol i bobl ifanc gan Alan Garner. Stori arswyd grefftus, sy'n dilyn trywydd tri o bobl ifanc sy'n cael eu gorfodi i ail-greu chwedl Blodeuwedd.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  7. Math@ebol: Mat a Sgrin 3

    Math@ebol: Mat a Sgrin 3

    Matiau mathemateg a CD rhyngweithiol ar gyfer y bwrdd gwyn. Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer astudio Lleoli Rhif, Lluosi a Rhannu a Ffracsiynau Cywerth. Matiau A3 wedi'u lamineiddio sy'n hybu'r gwaith o wella sgiliau mathemategol. Matiau dwy ochrog gyda gwybodaeth fathemategol ar un ochr ac ymarferion ar yr ochr arall. Addas ar gyfer datblygu Sgiliau Sylfaenol mewn mathemateg. Mae modd ysgrifennu ar y matiau cyn eu glanhau gyda chlwtyn sych. Mae modd defnyddio'r CD ar fwrdd gwyn neu ar gyfrifiadur personol. Mae'r rhaglen yn caniatu i'r plant fwydo'r atebion a chael ymateb i weld a ydyn nhw'n gywir ai pheidio. Mwy o wybodaeth
    £14.99

  8. Gwaith Map: Sgiliau Sylfaenol - Ar Gyfer Cyfnod Allweddol 3

    Gwaith Map: Sgiliau Sylfaenol - Ar Gyfer Cyfnod Allweddol 3

    Wedi ei ysgrifennu i gefnogi addysgu a dysgu sgiliau daearyddiaeth yng Nghyfnod Allweddol 3. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  9. Hen Wlad Fy Nhadau - Pecyn Llythrennedd

    Hen Wlad Fy Nhadau - Pecyn Llythrennedd

    Pecyn o gardiau thematig sy'n cynnwys gweithgareddau a syniadau i hybu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Pecyn sydd wedi'i greu i gyfateb gofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn drawsgwricwlaidd, yn ogystal a'r Meysydd Dysgu a Rhaglenni Astudio Diwygiedig. Wedi'u creu ar gyfer disgyblion CA 2 a 3. Mwy o wybodaeth
    £12.99

  10. Cyfres Ben Bril

    Cyfres Ben Bril

    Cyfres o lyfrau stori llawn antur ar ffurf comig. Mwy o wybodaeth
    £18.00

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 58