COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

9 Eitem

  1. Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Dyma lyfr cwrs cynhwysfawr a hyblyg ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Busnes sy'n dilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gwahanol gyrsiau proffesiynol.

    Mae Astudiaethau Busnes Cyfrol 2 wedi'i drefnu'n unedau, gyda phob uned yn canolbwyntio ar bwnc penodol. Mae'r unedau'n cynnwys triniaeth gynhwysfawr o'r pwnc dan sylw ynghyd â chynnwys diagramau lliw llawn i gynorthwyo'r egluro. Ar ddiwedd Cyfrol 2 mae unedau ar gasglu, cyflwyno a dadansoddi data, ac arweiniad ynghylch astudio effeithiol ac asesu.

    Mwy o wybodaeth
    £14.99

  2. Crash (Cymraeg/Welsh)

    Crash (Cymraeg/Welsh)

    Dyma ddrama afaelgar am sefyllfa ddirdynnol tri ffrind 16 oed sy'n ceisio dygymod a'u bywydau gwahanol.

    Dyw Elin ddim yn ffitio i mewn. Mae hi'n wahanol i'w mam a'i thad parchus, dosbarth canol; mae hi'n wahanol i Rhys, ei ffrind cydwybodol. Ond gyda Wes, mae pethau'n wahanol. 

    Fersiwn Saesneg hefyd ar gael.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  3. Crash (Saesneg/English)

    Crash (Saesneg/English)

    Drama am dri chymeriad 16 oed. Mae Els yn cael pob gofal a chariad gan ei rhieni, ond mae'n ysu am ryddid a bywyd mwy cynhyrfus. Mae Wes yn bwy bywyd annibynnol, heb na gofal na chariad gan ei rieni. Ar ôl i Els a Wes ddisgyn mewn cariad, mae bywydau'r ddau yn newid yn gyflym iawn. Mwy o wybodaeth
    £5.99

  4. Help Llaw gydag astudio Blasu - Cymraeg Safon Uwch

    Help Llaw gydag astudio Blasu - Cymraeg Safon Uwch

    Arweiniad i fyfyrwyr Cymraeg Safon Uwch ar gyfer astudio a gwerthfawrogi Blasu gan Manon Steffan Ros.

    Mae'n ymdrin â chefndir a chyd-destun y nofel, cymeriadau, prif themâu, arddull a chrefft ynghyd â'i chymharu gyda nofelau eraill.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  5. Rhith y Rhosyn

    Rhith y Rhosyn

    Cyfieithiad gan Emyr Edwards o ddrama Tennessee Williams, The Rose Tattoo. Drama sy'n addas ar gyfer ysgolion, colegau a chwmnïau drama.

    Er bod Rhith y Rhosyn yn cael ei hystyried yn gomedi, eto i gyd mae ynddi elfennau o drasiedi bywyd. Mae'n cydnabod pwer dinistriol unigrwydd ar modd y bydd pobl yn dianc rhag ymosodiadau'r bywyd cymdeithasol sydd o'u cwmpas, a'r un pryd yn cynnig ymsuddo mewn rhywioldeb fel ateb iw problemau personol.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  6. Noson ar y Teils

    Noson ar y Teils

    Drama graff, ddifyr a hynod ddoniol gan y dramodydd toreithiog Frank Vickery sy'n un o'r dramau gosod ar faes llafur CBAC;Drama ac Astudiaethau Theatr TAG U/UG. Drama gan Frank Vickery. Addasiad Cymraeg gan Garry Nicholas Mwy o wybodaeth
    £5.99

  7. Lletygarwch Lefel 2 BTEC Cyntaf

    Lletygarwch Lefel 2 BTEC Cyntaf

    Llyfr delfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r cwrs BTEC Cyntaf Lefel 2 mewn lletygarwch. Mwy o wybodaeth
    £27.50

  8. Blacmêl

    Blacmêl

    Llyfr gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Mynediad 1. Rhan o’r gyfres Amdani. Dyma stori newydd sbon yn dilyn Elsa Bowen y ditectif preifat. Bydd y llyfr hwn lefel yn is na’r gyfrol cyntaf yn y gyfres (Gangsters yn y Glaw). Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr newydd sydd wedi dysgu 8 Uned.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  9. Cariad Pur (teitl i'w gadarnhau)

    Cariad Pur (teitl i'w gadarnhau)

    Llyfr newydd, gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Canolradd. Rhan o’r gyfres Amdani.

    Nofel iasoer am Sara, tiwtor Cymraeg. Mae grŵp o bobl Prydeinig yn penderfynu ymgartrefu yng nghefn gwlad Gwynedd ac maent yn awyddus i ddechrau ymdoddi i’r gymuned newydd. Mae Paul, arweinydd y grŵp, yn penodi Sara i ddysgu Cymraeg iddynt. Maen nhw’n talu’n hael, yn gweithio’n galed ac mae Sara’n gweld Paul yn ddeniadol iawn! Ydy Sara wedi dod o hyd i'r bywyd perffaith yn y gymuned newydd neu oes cyfrinachau tywyll yn cuddio ar fferm Bywyd Newydd?

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

Set Ascending Direction

Grid List

9 Eitem