COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 46

  1. Astudiaethau Busnes: Cyfrol 1

    Astudiaethau Busnes: Cyfrol 1

    Llyfr cwrs cynhwysfawr a hyblyg ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Busnes - mae'n gyfuniad o werslyfr a llyfr gwaith. Addasiad Cymraeg o Business Studies a gyhoeddwyd gan Pearson Education. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2009. Mwy o wybodaeth
    £12.50

  2. Rhith y Rhosyn

    Rhith y Rhosyn

    Cyfieithiad gan Emyr Edwards o ddrama Tennessee Williams, The Rose Tattoo. Drama sy'n addas ar gyfer ysgolion, colegau a chwmnïau drama.

    Er bod Rhith y Rhosyn yn cael ei hystyried yn gomedi, eto i gyd mae ynddi elfennau o drasiedi bywyd. Mae'n cydnabod pwer dinistriol unigrwydd ar modd y bydd pobl yn dianc rhag ymosodiadau'r bywyd cymdeithasol sydd o'u cwmpas, a'r un pryd yn cynnig ymsuddo mewn rhywioldeb fel ateb iw problemau personol.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  3. Hogia Ni - Yma o Hyd

    Hogia Ni - Yma o Hyd

    Drama bwerus am effaith rhyfel.

    Mae'n ddiwedd 2014, yn dilyn ymadawiad terfynol byddinoedd Ei Mawrhydi o dalaith Helmand, Afghanistan. Daw tri cyn-filwr at ei gilydd i hel atgofion, ond o dipyn i beth fe ddaw hi'n amlwg na fydd pethau byth yr un fath eto.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Yfory (Cwmni Theatr Baracaws)

    Yfory (Cwmni Theatr Baracaws)

    Creisis personol, creisis gwleidyddol, erbyn yfory bydd y byd wedi newid...

    Ym myd gwleidyddiaeth gall argyfwng annisgwyl fod yn gyfle i drio rhywbeth gwahanol na ellid ei ystyried dan amgylchiadau arferol, ac yn dilyn lecsiwn 2016 mae'n greisis yn y Cynulliad. Drama a berfformiwyd gan Gwmni Theatr Bara Caws yng Ngwanwyn 2017.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Safon Uwch

    Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Safon Uwch

    Addasiad Cymraeg o Government and Politics gan Duncan Watts. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys astudiaeth o wleidyddiaeth, cyfrangogiad a llywodraethu gwledydd Prydain. Llyfr trefnus sy'n hawdd i'w ddefnyddio ac sy'n cynnwys gweithgareddau, cwestiynnau crynhoi a chwestiynnau arholiad posibl er mwyn annog dysgu annibynnol. Mwy o wybodaeth
    £21.99

  6. Crash (Cymraeg/Welsh)

    Crash (Cymraeg/Welsh)

    Dyma ddrama afaelgar am sefyllfa ddirdynnol tri ffrind 16 oed sy'n ceisio dygymod a'u bywydau gwahanol.

    Dyw Elin ddim yn ffitio i mewn. Mae hi'n wahanol i'w mam a'i thad parchus, dosbarth canol; mae hi'n wahanol i Rhys, ei ffrind cydwybodol. Ond gyda Wes, mae pethau'n wahanol. 

    Fersiwn Saesneg hefyd ar gael.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  7. Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Dyma lyfr cwrs cynhwysfawr a hyblyg ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Busnes sy'n dilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gwahanol gyrsiau proffesiynol.

    Mae Astudiaethau Busnes Cyfrol 2 wedi'i drefnu'n unedau, gyda phob uned yn canolbwyntio ar bwnc penodol. Mae'r unedau'n cynnwys triniaeth gynhwysfawr o'r pwnc dan sylw ynghyd â chynnwys diagramau lliw llawn i gynorthwyo'r egluro. Ar ddiwedd Cyfrol 2 mae unedau ar gasglu, cyflwyno a dadansoddi data, ac arweiniad ynghylch astudio effeithiol ac asesu.

    Mwy o wybodaeth
    £14.99

  8. Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth - Lleoedd Newidiol

    Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth - Lleoedd Newidiol

    Llawlyfr sy'n ymateb yn llawn i ofynion arholiadau Daearyddiaeth TAG Uwch Gyfrannol a Safon Uwch CBAC. Cyflwynir yr wybodaeth angenrheidiol a cheir crynodeb byr ar ddiwedd pob uned. Atgyfnerthir dealltwriaeth y myfyriwr drwy gyfrwng yr adrannau 'Cymorth i'r arholiad', 'Prawf gwybodaeth' ac 'Atebion'.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  9. Seicoleg Safon Uwch - Llyfr 2

    Seicoleg Safon Uwch - Llyfr 2

    Ysgrifennwyd yr argraffiad newydd hwn fel Cydymaith Cyflawn i werslyfr CBAC, gan awduron ac arholwyr Seicoleg profiadol. Fe’i cynlluniwyd i helpu dealltwriaeth myfyrwyr o Seicoleg ac i wella perfformiad yn yr arholiad. Mwy o wybodaeth
    £29.99

  10. Y Mabinogion - Llyfr Adolygu Safon Uwch

    Y Mabinogion - Llyfr Adolygu Safon Uwch

    Nodiadau adolygu gan yr Athro Gwyn Thomas ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch; llawlyfr adolygu perffaith cyfle i ddod yn gyfarwydd gyda rhai o dermau astudio llen llafar a llen gwerin.

    Dyma astudiaeth gynhwysfawr o'r themu, astudiaeth o'r cymeriadau ar gyfer astudio'r chwedlau, gwybodaeth ffeithiol a dadansoddiad treiddgar gan arbenigwr yn y maes.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 46