COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 22

  1. Crash (Cymraeg/Welsh)

    Crash (Cymraeg/Welsh)

    Dyma ddrama afaelgar am sefyllfa ddirdynnol tri ffrind 16 oed sy'n ceisio dygymod a'u bywydau gwahanol.

    Dyw Elin ddim yn ffitio i mewn. Mae hi'n wahanol i'w mam a'i thad parchus, dosbarth canol; mae hi'n wahanol i Rhys, ei ffrind cydwybodol. Ond gyda Wes, mae pethau'n wahanol. 

    Fersiwn Saesneg hefyd ar gael.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  2. Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Dyma lyfr cwrs cynhwysfawr a hyblyg ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Busnes sy'n dilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gwahanol gyrsiau proffesiynol.

    Mae Astudiaethau Busnes Cyfrol 2 wedi'i drefnu'n unedau, gyda phob uned yn canolbwyntio ar bwnc penodol. Mae'r unedau'n cynnwys triniaeth gynhwysfawr o'r pwnc dan sylw ynghyd â chynnwys diagramau lliw llawn i gynorthwyo'r egluro. Ar ddiwedd Cyfrol 2 mae unedau ar gasglu, cyflwyno a dadansoddi data, ac arweiniad ynghylch astudio effeithiol ac asesu.

    Mwy o wybodaeth
    £14.99

  3. Gwasanaeth Bwyd a Diod - Lefelau 1 a 2

    Gwasanaeth Bwyd a Diod - Lefelau 1 a 2

    Llyfr a fydd yn sicrhau y bydd gennych y sgiliau hanfodol a’r gefnogaeth i lwyddo yn y cymwysterau diweddaraf – Tystysgrif Lefel 1 a Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol.

    Dyluniwyd y llyfr yn arbennig ar gyfer dysgwyr Lefel 1 a Lefel 2. Mae’n egluro’r prif gysyniadau yn glir, ac mae’r testunau wedi’u mapio’n ofalus i gymhwyster NVQ a Thystysgrif a Diploma mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod (VRQ) ar Lefelau 1 a 2.

    Mwy o wybodaeth
    £29.99

  4. Y Mabinogion - Llyfr Adolygu Safon Uwch

    Y Mabinogion - Llyfr Adolygu Safon Uwch

    Nodiadau adolygu gan yr Athro Gwyn Thomas ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch; llawlyfr adolygu perffaith cyfle i ddod yn gyfarwydd gyda rhai o dermau astudio llen llafar a llen gwerin.

    Dyma astudiaeth gynhwysfawr o'r themu, astudiaeth o'r cymeriadau ar gyfer astudio'r chwedlau, gwybodaeth ffeithiol a dadansoddiad treiddgar gan arbenigwr yn y maes.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  5. Seicoleg Uwch Gyfrannol – Y Cydymaith Cyflawn (Ailargraffiad)

    Seicoleg Uwch Gyfrannol – Y Cydymaith Cyflawn (Ailargraffiad)

    Mae'r gyfrol hon wedi'i hysgrifennu gan awduron ac arholwyr Seicoleg profiadol. Mae'r ail argraffiad hwn o'r gwerslyfr poblogaidd Y Cydymaith Cyflawn wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer Bwrdd Arholi CBAC. Nod y gyfrol yw sicrhau fod dealltwriaeth dda gan fyfyrwyr o'r pwnc a fydd yn arwain at ddealltwriaeth a chanlyniadau safonol. Mwy o wybodaeth
    £21.99

  6. Cardiau Adolygu'r Gyfraith: Cyfraith Troseddol

    Cardiau Adolygu'r Gyfraith: Cyfraith Troseddol

    Mae'r pecyn adolygu hwn wedi'i greu ar gyfery rhai sy'n astudio Cyfraith Troseddol ar gyfer arholiadau Safon Uwch A2 yn y Gyfraith. Mae'r cardiau'n cynnwys 50 o feysydd adolygu gyda 200 o gwestiynau ac atebion. Mae'r cardiau hefyd yn cynnwys nodiadau ganyr Arholwr, 50 o gardiau lliw, nodiadau adolygu allweddol ar bob pwnc, mynegai llawn. Dyma becyn maint poced sy'n hwylus i'w ddefnyddio unrhywle, unrhywbryd. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  7. Help Llaw gydag astudio Blasu - Cymraeg Safon Uwch

    Help Llaw gydag astudio Blasu - Cymraeg Safon Uwch

    Arweiniad i fyfyrwyr Cymraeg Safon Uwch ar gyfer astudio a gwerthfawrogi Blasu gan Manon Steffan Ros.

    Mae'n ymdrin â chefndir a chyd-destun y nofel, cymeriadau, prif themâu, arddull a chrefft ynghyd â'i chymharu gyda nofelau eraill.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  8. Crash (Saesneg/English)

    Crash (Saesneg/English)

    Drama am dri chymeriad 16 oed. Mae Els yn cael pob gofal a chariad gan ei rhieni, ond mae'n ysu am ryddid a bywyd mwy cynhyrfus. Mae Wes yn bwy bywyd annibynnol, heb na gofal na chariad gan ei rieni. Ar ôl i Els a Wes ddisgyn mewn cariad, mae bywydau'r ddau yn newid yn gyflym iawn. Mwy o wybodaeth
    £5.99

  9. Canllawiau Adolygu Economeg Safon UG ac Uwch

    Canllawiau Adolygu Economeg Safon UG ac Uwch

    Llyfr adolygu sy'n ymdrin a chynnwys manylebau CBAC, AQA, Edexcel ac OCR ar gyfer Economeg Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.

    Mae'r cynnwys wedi'i rannu'n adrannau hwylus, gyda rhan gyntaf y llyfr yn ymdrin micro-economeg a'r ail ran yn ymdrin a macro-economeg. Arddull cyflwyno syml, gan ddefnyddio diagramau i gynorthwyo adolygu lle bo'n briodol. Mae cwestiynau adolygu ar gyfer pob adran o'r llyfr.

    Llyfr gan Andrew Gillespie, addasiad Cymraeg gan Colin Isaac.

    Mwy o wybodaeth
    £10.99

  10. Noson ar y Teils

    Noson ar y Teils

    Drama graff, ddifyr a hynod ddoniol gan y dramodydd toreithiog Frank Vickery sy'n un o'r dramau gosod ar faes llafur CBAC;Drama ac Astudiaethau Theatr TAG U/UG. Drama gan Frank Vickery. Addasiad Cymraeg gan Garry Nicholas Mwy o wybodaeth
    £5.99

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 22