COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 26

  1. Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllaw Pen-tennyn

    Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllaw Pen-tennyn

    Addasiad Cymraeg o A Mindfulness Guide for the Frazzled gan Ruby Wax. Bum can mlynedd yn ôl, doedd neb yn marw o straen: ni wnaeth ddyfeisio’r cysyniad hwn, ac rydyn ni bellach yn gadael iddo’n rheoli ni. Mae Ruby Wax yn dangos i ni sut i lacio’n gafael er ein lles ein hunain, drwy wneud newidiadau syml sy’n rhoi cyfle i ni anadlu, myfyrio a byw yn y funud. Gadewch i Ruby eich tywys at y chi iachach a hapusach. Yr unig beth sydd gennych i’w golli yw’ch straen...

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

  2. CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Dadansoddiad Busnes a Strategaeth

    CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Dadansoddiad Busnes a Strategaeth

    Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business analysis and strategy ar gyfer myfyrwyr TAG Uwch Blwyddyn 2. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  3. Siwan a Cherddi Eraill

    Siwan a Cherddi Eraill

    Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Cariad Pur (teitl i'w gadarnhau)

    Cariad Pur (teitl i'w gadarnhau)

    Llyfr newydd, gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Canolradd. Rhan o’r gyfres Amdani.

    Nofel iasoer am Sara, tiwtor Cymraeg. Mae grŵp o bobl Prydeinig yn penderfynu ymgartrefu yng nghefn gwlad Gwynedd ac maent yn awyddus i ddechrau ymdoddi i’r gymuned newydd. Mae Paul, arweinydd y grŵp, yn penodi Sara i ddysgu Cymraeg iddynt. Maen nhw’n talu’n hael, yn gweithio’n galed ac mae Sara’n gweld Paul yn ddeniadol iawn! Ydy Sara wedi dod o hyd i'r bywyd perffaith yn y gymuned newydd neu oes cyfrinachau tywyll yn cuddio ar fferm Bywyd Newydd?

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  5. CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Busnes mewn Byd sy’n Newid

    CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Busnes mewn Byd sy’n Newid

    Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business in a changing world ar gyfer myfyrwyr TAG Uwch Blwyddyn 2. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  6. Dwyn i Gof

    Dwyn i Gof

    Mae Huw a Bet yn briod ers 40 mlynedd a Gareth, eu hunig fab, ar fin priodi Cerys. Mae trefniadau i'w cadarnhau. Mae Huw'n benderfynol o chwarae ei ran ond gyda'i gof yn araf ddadfeilio mae perygl i gyfrinachau hen a newydd gael eu datgelu. Cynhyrchwyd y ddrama hon am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws, Hydref 2018. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Cyfleoedd Busnes

    CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Cyfleoedd Busnes

    Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business opportunities ar gyfer myfyrwyr UG/Uwch Blwyddyn 1. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  8. Blacmêl

    Blacmêl

    Llyfr gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Mynediad 1. Rhan o’r gyfres Amdani. Dyma stori newydd sbon yn dilyn Elsa Bowen y ditectif preifat. Bydd y llyfr hwn lefel yn is na’r gyfrol cyntaf yn y gyfres (Gangsters yn y Glaw). Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr newydd sydd wedi dysgu 8 Uned.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  9. Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth Cylchredau Dŵr a Charbon

    Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth Cylchredau Dŵr a Charbon

    Llawlyfr sy'n atgyfnerthu dealltwriaeth y myfyrwyr o systemau byd-eang gan roi sylw penodol i gylchredau dŵr a charbon. Llawlyfr sy'n ymateb yn llawn i ofynion arholiad Daearyddiaeth TAG Uwch Gyfrannol a Safon Uwch, CBAC.

    - Cyngor defnyddiol a phrofion i baratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiad.
    - Tasgau hunan astudio.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  10. Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth Llywodraethiant Byd Eang

    Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth Llywodraethiant Byd Eang

    Llawlyfr sy'n atgyfnerthu dealltwriaeth y myfyrwyr o lywodraethiant byd-eang gan roi sylw arbennig i'r newidiadau sy'n digwydd a sut orau i ymateb i'r newidiadau hynny. Llawlyfr sy'n ymateb yn llawn i ofynion arholiad Daearyddiaeth TAG Uwch Gyfrannol a Safon Uwch, CBAC.

    - Cyngor defnyddiol a phrofion i baratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiad

    - Tasgau hunan astudio

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 26