Mae Osian yn meddwl y byd o Mam-gu, ac mae'r ddau yn cael llawer o hwyl gyda'i gilydd. Ond pan mae Mam-gu'n dechrau cael trafferth i ofalu amdani ei hun, mae hi'n gorfod symud i fyw mewn cartref arbennig. Y llyfr stori cyntaf erioed yn y Gymraeg i drafod y cyflwr Dementia o safbwynt plentyn ifanc.
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!
Addasiad Cymraeg o Living Life to the Full gan Dr Chris Williams.
Ydych chi am deimlo’n hapusach, dod o hyd i amser i chi a goresgyn problemau? Mae Byw Bywyd i’r Eitha’ yn dysgu strategaethau lles pwerus i chi yn seiliedig ar y dull Therapi Ymddygiad Gwybyddol y gellir ymddiried ynddo. Ei nod yw eich helpu chi i ddarganfod pam rydych chi’n teimlo fel rydych chi’n ei wneud, ac yna gwneud newidiadau mewn ffyrdd cam wrth gam wedi’u cynllunio.
Wedi’i ysgrifennu gan yr awdur arobryn yr Athro Chris Williams, Athro Emeritws Seiciatreg Seicogymdeithasol ym Mhrifysgol Glasgow a Llywydd y sefydliad arweiniol ar gyfer Therapi Ymddygiad Gwybyddol yn y DU (BABCP), mae’r llyfr hwn wedi helpu cannoedd o filoedd o bobl ledled y DU , yn ogystal ag mewn rhaglenni mawr yn yr Undeb Ewropeaidd, Gogledd America ac Asia.
Addasiad Cymraeg o The Compassionate Mind Approach to Postnatal Depression gan Michelle Cree. Gall cael babi fod yn gyfnod o lawenydd ond hefyd yn destun pryder a hyd yn oed iselder i famau newydd. Mae’n gyffredin iawn i famau newydd brofi cyfnod byr o bryder yn dilyn genedigaeth ac i fwy nag 1 o bob 10 menyw, gall y profiad ofidus hwn fod yn fwy hirfaith. Bydd y llyfr hunangymorth ymarferol hwn sy’n seiliedig ar Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi yn eich helpu i adnabod rhai o’r symptomau a, lle bo hynny’n briodol, eu normaleiddio, a thrwy hynny leddfu eu gofid. Bydd hefyd yn tywys mamau i fod, a mamau newydd trwy’r ddrysfa o deimladau dryslyd a all godi.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o A Mindfulness Guide for the Frazzled gan Ruby Wax. Bum can mlynedd yn ôl, doedd neb yn marw o straen: ni wnaeth ddyfeisio’r cysyniad hwn, ac rydyn ni bellach yn gadael iddo’n rheoli ni. Mae Ruby Wax yn dangos i ni sut i lacio’n gafael er ein lles ein hunain, drwy wneud newidiadau syml sy’n rhoi cyfle i ni anadlu, myfyrio a byw yn y funud. Gadewch i Ruby eich tywys at y chi iachach a hapusach. Yr unig beth sydd gennych i’w golli yw’ch straen...
Mwy o wybodaeth