Nofel wreiddiol gan yr awdures Eiddwen Jones.
Nofel hanesyddol afaelgar wedi'i lleoli yn sir y Fflint a swydd Cumbria ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Does dim dianc rhag y twyll ddaw i blagio Phoebe Hughes, morwyn ifanc ar fferm Caeau Gwylltion
Mwy o wybodaeth
A revised new version of the WJEC/Eduqas Computer Science student book, specifically written for WJEC AS and A Level specification. This student book helps student build their knowledge and master underlying computing principles and concepts. This book develops computational thinking, programming and problem-solving skills.
Mwy o wybodaeth
Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...
Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.
3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal
Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!
Llyfr newydd, gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Canolradd. Rhan o’r gyfres Amdani.
Nofel iasoer am Sara, tiwtor Cymraeg. Mae grŵp o bobl Prydeinig yn penderfynu ymgartrefu yng nghefn gwlad Gwynedd ac maent yn awyddus i ddechrau ymdoddi i’r gymuned newydd. Mae Paul, arweinydd y grŵp, yn penodi Sara i ddysgu Cymraeg iddynt. Maen nhw’n talu’n hael, yn gweithio’n galed ac mae Sara’n gweld Paul yn ddeniadol iawn! Ydy Sara wedi dod o hyd i'r bywyd perffaith yn y gymuned newydd neu oes cyfrinachau tywyll yn cuddio ar fferm Bywyd Newydd?
Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business analysis and strategy ar gyfer myfyrwyr TAG Uwch Blwyddyn 2. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o BTEC National Sports Units 1 and 2 Revision Workbook sy’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer eu dealltwriaeth o’r meysydd o dan sylw.
Mwy o wybodaeth
Mae Osian yn meddwl y byd o Mam-gu, ac mae'r ddau yn cael llawer o hwyl gyda'i gilydd. Ond pan mae Mam-gu'n dechrau cael trafferth i ofalu amdani ei hun, mae hi'n gorfod symud i fyw mewn cartref arbennig. Y llyfr stori cyntaf erioed yn y Gymraeg i drafod y cyflwr Dementia o safbwynt plentyn ifanc.
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!