Nofel wreiddiol gan yr awdures Eiddwen Jones.
Nofel hanesyddol afaelgar wedi'i lleoli yn sir y Fflint a swydd Cumbria ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Does dim dianc rhag y twyll ddaw i blagio Phoebe Hughes, morwyn ifanc ar fferm Caeau Gwylltion
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg gan Pegi Talfryn o Man Hunt gan Richard MacAndrew ar gyfer lefel Canolradd.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn enwog am ei harddwch naturiol a’r llwybrau cerdded. Ond mae’r lle yn cyrraedd y newyddion am reswm arall; mae pobl yn cael eu lladd yn yr ardal. A fydd Ditectif Arolygydd Cadog Williams a’i dîm yn gallu dod o hyd i’r llofrudd cyn iddo ladd eto?
Rhan o gyfres Amdani, cyfres newydd o lyfrau darllen i oedolion sy'n dysgu Cymraeg. https://parallel.cymru/amdani/
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o Windows of the Mind gan Frank Brennan i ddysgwyr Cymraeg lefel Uwch.
Dyma gasgliad o straeon byrion difyr a fydd yn siwr o wneud i chi feddwl. Dewch i adnabod cymeriadau cymleth, lleoliadau pell, a straeon fydd yn aros yn eich meddwl am amser maith.
Rhan o gyfres Amdani. https://parallel.cymru/amdani/
Mwy o wybodaeth
Nofel gan Bethan Gwanas i ddysgwyr Cymraeg lefel sylfaen.
Mae Dafydd yn cerdded yn ei gwsg, ac un bore, mae'n deffro yn waed i gyd. Mae'n dilyn olion traed gwaedlyd allan o'r tŷ a thrwy'r pentref ac yn darganfod Mrs Roberts a'i zimmerframe ar ochr y ffordd wedi'i tharo gan gar. Pwy sydd wedi ei tharo? A fydd yr heddlu yn arestio'r person cywir?
Rhan o gyfres Amdani. https://parallel.cymru/amdani/
Mwy o wybodaeth
Nofel i ddysgwyr Cymraeg, lefel Uwch, gan Sarah Reynolds. Rhan o gyfres Amdani.
Ar ôl corwynt o garwriaeth, mae Katie newydd symud i Gymru yn adnabod neb ond Dylan, ei gŵr newydd sbon. Er addo y bydden nhw'n byw mewn tŷ enfawr gyda llawer o dir o'u cwmpas ... nid felly y mae pethau. Rhannu gwely sengl yng nghartref rhieni Dylan yw eu hanes, wrth i bawb ddysgu ymdopi â ddieithwraig ryfedd yn eu plith ... a hithau'n Saesnes hollol ddi-glem!
Yn y nofel gomig hon, mae gan Katie lawer i ddysgu, am Gymru, y Gymraeg ac am ei gŵr newydd hefyd!
https://parallel.cymru/amdani/
Mwy o wybodaeth
Llyfr gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Mynediad 1. Rhan o’r gyfres Amdani. Dyma stori newydd sbon yn dilyn Elsa Bowen y ditectif preifat. Bydd y llyfr hwn lefel yn is na’r gyfrol cyntaf yn y gyfres (Gangsters yn y Glaw). Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr newydd sydd wedi dysgu 8 Uned.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business in a changing world ar gyfer myfyrwyr TAG Uwch Blwyddyn 2. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.
Mwy o wybodaeth
Nofel fer gan Manon Steffan Ros i ddysgwyr Cymraeg lefel mynediad.
Mae Stryd y Bont yn dilyn hanes pobl sy’n byw ar un stryd mewn tref yng Nghymru. Pa gyfrinachau sydd ganddyn nhw? Pwy sy’n adnabod pwy? Ac a ydy cymeriadau Stryd y Bont yn adnabod eu cymdogion o gwbl?
Rhan o gyfres Amdani. https://parallel.cymru/amdani/
Mwy o wybodaeth