Llyfr gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Mynediad 1. Rhan o’r gyfres Amdani. Dyma stori newydd sbon yn dilyn Elsa Bowen y ditectif preifat. Bydd y llyfr hwn lefel yn is na’r gyfrol cyntaf yn y gyfres (Gangsters yn y Glaw). Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr newydd sydd wedi dysgu 8 Uned.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business in a changing world ar gyfer myfyrwyr TAG Uwch Blwyddyn 2. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.
Mwy o wybodaeth
Nofel fer gan Manon Steffan Ros i ddysgwyr Cymraeg lefel mynediad.
Mae Stryd y Bont yn dilyn hanes pobl sy’n byw ar un stryd mewn tref yng Nghymru. Pa gyfrinachau sydd ganddyn nhw? Pwy sy’n adnabod pwy? Ac a ydy cymeriadau Stryd y Bont yn adnabod eu cymdogion o gwbl?
Rhan o gyfres Amdani. https://parallel.cymru/amdani/
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o A Mindfulness Guide for the Frazzled gan Ruby Wax. Bum can mlynedd yn ôl, doedd neb yn marw o straen: ni wnaeth ddyfeisio’r cysyniad hwn, ac rydyn ni bellach yn gadael iddo’n rheoli ni. Mae Ruby Wax yn dangos i ni sut i lacio’n gafael er ein lles ein hunain, drwy wneud newidiadau syml sy’n rhoi cyfle i ni anadlu, myfyrio a byw yn y funud. Gadewch i Ruby eich tywys at y chi iachach a hapusach. Yr unig beth sydd gennych i’w golli yw’ch straen...
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business functions ar gyfer myfyrwyr UG/Uwch Blwyddyn 1. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.
Mwy o wybodaeth
Mae Osian yn meddwl y byd o Mam-gu, ac mae'r ddau yn cael llawer o hwyl gyda'i gilydd. Ond pan mae Mam-gu'n dechrau cael trafferth i ofalu amdani ei hun, mae hi'n gorfod symud i fyw mewn cartref arbennig. Y llyfr stori cyntaf erioed yn y Gymraeg i drafod y cyflwr Dementia o safbwynt plentyn ifanc.
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!