Llyfr poblogaidd arall yng nghyfres Alphaprints. Dyma lyfr bwrdd lliwgar a doniol am griw o ddeinosoriaid difyr!
Mae pob deinosor yn cynrychioli siap gwahanol, ac mae'n ffordd wych o ddysgu'r plant am y siapiau mwyaf cyffredin.
Mae'r darluniau'n drawiadol, ac wedi eu creu gydag olion bysedd. Llyfr deniadol fydd yn siwr o blesio'r plant ifanc dro ar ôl tro.
Mwy o wybodaeth
Llyfr stori dwyieithog cafodd ei ddatblygu ar y cyd gyda Mudiad Ysgolion Meithrin.
Bwriad 'Mae'n Iawn bod yn Wahanol' ydy ysbrydoli plant (ac oedolion!) i ddathlu'r gwahaniaethau rhwng un plentyn a'r llall, a thrwy hynny dderbyn pawb fel y maen nhw a meithrin hunanhyder.
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!
Llyfr sy'n cyflwyno siapiau mewn ffordd hwyliog. Bydd plant wrth eu bodd yn dod i adnabod siapiau wrth osod y siapiau magnetig ar y tudalennau magnetig i greu pob math o ddarluniau llwigar.
Llyfr gweithgareddau sy'n cynnig oriau o hwyl ac sy'n annog cyd-chwarae hapus.
Mwy o wybodaeth
Ffordd hwyliog i ddysgu plant sut i ddweud yr amser. Bydd plant wrth eu boddau yn gosod y clociau magnetig ar y tudalennau perthnasol er mwyn sicrhau bod yr amser yn gywir ar bob darlun.
Llyfr sy'n cynnig oriau o hwyl ac yn annog plant i ddysgu sut i ddweud yr amser.
Mwy o wybodaeth