COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 22

  1. Elen Benfelen

    Elen Benfelen

    Ar y dechrau, mae pawb wrth eu bodd â’r hyn y mae Elen Benfelen yn ei rannu ar-lein. Ond wrth geisio cael mwy a mwy o ddilynwyr, mae hi’n tynnu un hunlun yn ormod, ac yn mynd dros ben llestri – nes iddi ddifetha ei henw da am byth… Addasiad Cymraeg o Goldilocks (A Hashtag Cautionary Tale) gan Jeanne Willis. Dyma stori amserol am beryglon difetha dy enw da ar-lein, gan Jeanne Willis a’r arlunydd enwog Tony Ross. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Beth Grëwn Ni / What We’ll Build

    Beth Grëwn Ni / What We’ll Build

    Beth grëwn ni, ti a fi?
    Fe wna i dy ddyfodol di, a tithau f’un i.
    Gwnawn oriawr i gadw’n holl amser ni.

    Yn gyntaf, gad inni gasglu’r offer i gyd. Er mwyn rhoi at ei gilydd … a thynnu’n rhydd.

    Mae tad a’i ferch yn mynd ati i osod seiliau eu bywyd gyda’i gilydd. Â’u hoffer arbennig, maen nhw’n creu atgofion, yn codi cartref diogel ac yn meithrin cariad i’w cadw’n gynnes.

    Dyma stori oesol am gariad bythol rhiant, am bosibiliadau rhyfeddol bywyd ac am yr hyn sydd ei angen er mwyn adeiladu’r dyfodol.

    Cyfuniad unigryw o luniau a geiriau gan yr artist a’r awdur byd-enwog, Oliver Jeffers.

    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  3. Cwmwl Bach / Little Cloud

    Cwmwl Bach / Little Cloud

    Mae pawb wrth eu bodd yn edrych ar y cwmwl bach gwyn gan ei fod yn gwneud pob math o siapiau diddorol, ond un diwrnod mae'r cwmwl bach yn mynd yn fwy ac yn dywyllach ac yn drymach. Wrth i'r diferion o law ddisgyn, mae pawb yn rhedeg i ffwrdd ac nid oes unrhyw un yn hapus i weld y cwmwl bach bellach… neu ydyn nhw? Mae gan y stori galonogol, ddyrchafol hon neges bwerus am gael eich caru a'ch derbyn am bwy ydych chi. Llyfr stori a llun hyfryd ar gyfer helpu i drafod emosiynau a chyflwyno'r cylchred dŵr i blant dan 7 oed. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Petai’r Byd i Gyd Yn...

    Petai’r Byd i Gyd Yn...

    Mae Taid yn rhoi pensil lliwiau’r enfys i mi. “Ysgrifenna a thynna luniau, ysgrifenna a thynna luniau dy freuddwydion di i gyd.” Llyfr lluniau annwyl am y cariad rhwng merch fach a’i thaid, ac am gadw’r cariad yn fyw trwy atgofion. Y testun gan y bardd o fri Joseph Coelho a’r darluniau gan yr artist a’r dylunydd Allison Colpoys. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Y Ddinas Uchel / The Builders

    Y Ddinas Uchel / The Builders

    Mae tyrau'r ddinas uchel yn tyfu'n uwch ac yn uwch bob dydd. Mae pawb yn gweithio ddydd a nos i adeiladu'r tŵr uchaf un. Pawb ond Petra.

    Argraffiad dwyieithog o'n llyfr poblogaidd, Y Ddinas Uchel

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Mae'r Cyfan i Ti

    Mae'r Cyfan i Ti


    ** Testun Saesneg ar gael yng nghefn y llyfr **


    Cyfrol annwyl a theimladwy cyn mynd i gysgu wrth i riant gyflwyno rhai o ryfeddodau’r byd i’w plentyn. Dilynwn y dydd o’r wawr i’r machlud wrth i ni ddarllen am y rhyfeddodau sydd ar gael i’w profi. Digwydd hyn trwy ddefnyddio’r pum synnwyr fel modd o ddangos yr ystod o brofiadau sydd i’w cael ynghanol byd natur.

    Elfennau cyfarwydd i blant Cymru sydd yma (plant y wlad a’r ddinas hefyd) - pethau fel teimlo dail yr hydref dan draed, arogli rhosod a blasu mwyar duon. Mae’r delweddau sensitif o anifeiliaid y môr, y tir a’r awyr yn rhai annwyl a hoffus ac at chwaeth plant ifanc.

    Egyr y llyfr gyda sbloets o liw wrth i ni weld yr haul yn gwawrio. Erbyn y dudalen olaf, mae’r lliwiau wedi pylu wrth iddi nosi ar derfyn y dydd.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Allwch chi ddod o hyd i Sgodyn Streipiog a'i ffrindiau'n cuddio tu ôl i'r fflapiau? Gwyliwch rhag ofn iddyn nhw neidio allan!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Codi Fflap: Pi-Po Mam T. Rex

    Codi Fflap: Pi-Po Mam T. Rex

    Allwch chi ddod o hyd i Mami T.rex yn cuddio tu ôl i'r fflapiau Gwyliwch rhag ofn bydd deinosoriaid bach yn neidio allan!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Bocs Geiriau Cyntaf: Jig-so a Llyfr

    Bocs Geiriau Cyntaf: Jig-so a Llyfr

    Bocs yn cynnwys llyfr bwrdd lliwgar yn cyflwyno nifer o eiriau cyntaf defnyddiol a jigso llawr anferth sy'n dod â'r geiriau yn fyw! Oriau o hwyl i'r plant lleiaf. Mwy o wybodaeth
    £10.99

  10. Codi Fflap: Pi-Po Tractor

    Codi Fflap: Pi-Po Tractor

    Mae Pi-Po Tractor yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.

    Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 22