Pecyn newydd i gefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol.
Nod Datrys Problemau .… dechrau da! ydy cefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol. Dyma becyn sy’n gosod y plentyn yn y canol ac sy’n gosod pwyslais ar gynnig ramweithiau pwrpasol i’r addysgu a’r dysgu.
Mae Datrys Problemau .… dechrau da! yn hybu’r sgiliau sylfaenol a fydd hefyd yn galluogi’r plentyn i lwyddo ac ennill boddhad o’u profiad ym maes mathemateg.
Mwy o wybodaeth
Cyfres o lyfrau ffeithiol sy'n cynnig cyfle i ddysgwyr 3-5 oed rannu a mwynhau darllen gyda'i gilydd. Bydd 5 pecyn (5 thema) ar gyfer yr oedran hwn. Ymhob pecyn, ceir:
• 36 llyfr darllen (6 theitl gwahanol – 3 haen is a 3 haen uwch; 6 chopi o bob un ohonyn nhw)
• 6 llyfr oedolyn (1 i gyd-fynd â phob llyfr darllen, gydag awgrymiadau am strategaethau darllen a gweithgareddau, a grid geiriau)
• Teitlau llyfrau darllen y pecyn hwn: Esgyrn; Llysiau Taid; Anifeiliaid o dan fy nhraed; Ffrindiau bach, bach; Tŷ newydd sbon; Twneli.
• Estyniad i gyfres bobologaidd y Gwybodyn.
• Bydd y pecynnau cynhwysfawr hyn yn meithrin a datblygu hoffter dysgwyr o ddarllen, yn gwella eu sgiliau siarad a gwrando, yn eu cyflwyno i wahanol themâu ac arddulliau ysgrifennu, ac yn eu hannog i chwilio am ragor o wybodaeth.
Mwy o wybodaeth
Pecyn o wyth o lyfrau ffuglen ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu darllen Cymraeg. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau.
Mae'r pecyn yn cynnwys:
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Caffi
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Parc
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Fferm
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Parti
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Sinema
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Gampfa
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Siop
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Ardd