COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 11

  1. Uwch fy Mhen

    Uwch fy Mhen

    Cyfres o lyfrau ffeithiol sy’n cynnig cyfle i ddysgwyr 3-5 oed rannu a mwynhau darllen gyda’i gilydd. Bydd 5 pecyn (5 thema) ar gyfer yr oedran hwn. Ymhob pecyn, ceir: • 36 llyfr darllen (6 theitl gwahanol – 3 haen is a 3 haen uwch; 6 chopi o bob un ohonyn nhw) • 6 llyfr oedolyn (1 i gyd-fynd â phob llyfr darllen, gydag awgrymiadau am strategaethau darllen a gweithgareddau, a grid geiriau). • Teitlau llyfrau darllen y pecyn hwn: Y tywydd; Y wennol; Pacio picnic; I fyny ac i fyny; Y gofod; Tylluan wen. • Estyniad i gyfres boblogaidd y Gwybodyn. • Bydd y pecynnau cynhwysfawr hyn yn meithrin a datblygu hoffter dysgwyr o ddarllen, yn gwella eu sgiliau siarad a gwrando, yn eu cyflwyno i wahanol themâu ac arddulliau ysgrifennu, ac yn eu hannog i chwilio am ragor o wybodaeth. Mwy o wybodaeth
    £45.00

  2. Rownd a Rownd

    Rownd a Rownd

    Cyfres o lyfrau ffeithiol sy’n cynnig cyfle i ddysgwyr 3-5 oed rannu a mwynhau darllen gyda’i gilydd. Bydd 5 pecyn (5 thema) ar gyfer yr oedran hwn. Ymhob pecyn, ceir: • 36 llyfr darllen (6 theitl gwahanol – 3 haen is a 3 haen uwch; 6 chopi o bob un ohonyn nhw) • 6 llyfr oedolyn (1 i gyd-fynd â phob llyfr darllen, gydag awgrymiadau am strategaethau darllen a gweithgareddau, a grid geiriau) • Teitlau llyfrau darllen y pecyn hwn: Y tymhorau, Tic toc, Pizza i swper, Dilyn y swigod, Gorau glas, Yn y ffair. • Estyniad i gyfres boblogaidd y Gwybodyn. • Bydd y pecynnau cynhwysfawr hyn yn meithrin a datblygu hoffter dysgwyr o ddarllen, yn gwella eu sgiliau siarad a gwrando, yn eu cyflwyno i wahanol themâu ac arddulliau ysgrifennu, ac yn eu hannog i chwilio am ragor o wybodaeth. Mwy o wybodaeth
    £45.00

  3. Am Sŵn!

    Am Sŵn!

    Cyfres o lyfrau ffeithiol sy'n cynnig cyfle i blant 3-5 oed rannu a mwynhau darllen gyda'i gilydd. Bydd 5 pecyn (5 thema) ar gyfer yr oedran hwn. Cyfres o lyfrau ffeithiol sy’n cynnig cyfle i ddysgwyr 3-5 oed rannu a mwynhau darllen gyda’i gilydd. Bydd 5 pecyn (5 thema) ar gyfer yr oedran hwn. Ymhob pecyn, ceir: • 36 llyfr darllen (6 theitl gwahanol – 3 haen is a 3 haen uwch; 6 chopi o bob un ohonyn nhw) • 6 llyfr oedolyn (1 i gyd-fynd â phob llyfr darllen, gydag awgrymiadau am strategaethau darllen a gweithgareddau, a grid geiriau). • Teitlau llyfrau darllen pecyn ‘Am sŵn!’ yw: Aw! Pigyn clust; Ci bach newydd; Y band sbwriel; Neges bwysig; Ric-rocio; Sŵn bach a sŵn mawr. • Estyniad i gyfres boblogaidd y Gwybodyn. • Bydd y pecynnau cynhwysfawr hyn yn meithrin a datblygu hoffter dysgwyr o ddarllen, yn gwella eu sgiliau siarad a gwrando, yn eu cyflwyno i wahanol themâu ac arddulliau ysgrifennu, ac yn eu hannog i chwilio am ragor o wybodaeth. Mwy o wybodaeth
    £45.00

  4. Dathlu

    Dathlu

    Cyfres o lyfrau ffeithiol sy’n cynnig cyfle i ddysgwyr 3-5 oed rannu a mwynhau darllen gyda’i gilydd. Bydd 5 pecyn (5 thema) ar gyfer yr oedran hwn. Ymhob pecyn, ceir: • 36 llyfr darllen (6 theitl gwahanol – 3 haen is a 3 haen uwch; 6 chopi o bob un ohonyn nhw) • 6 llyfr oedolyn (1 i gyd-fynd â phob llyfr darllen, gydag awgrymiadau am strategaethau darllen a gweithgareddau, a grid geiriau). • Teitlau llyfrau darllen y pecyn hwn: Dydd Gŵyl Dewi; Helfa wyau; Noson tân gwyllt; Anrheg arbennig; Rwy’n dy garu di; Nadolig i ti a Nadolig i mi. • Estyniad i gyfres boblogaidd y Gwybodyn. • Bydd y pecynnau cynhwysfawr hyn yn meithrin a datblygu hoffter dysgwyr o ddarllen, yn gwella eu sgiliau siarad a gwrando, yn eu cyflwyno i wahanol themâu ac arddulliau ysgrifennu, ac yn eu hannog i chwilio am ragor o wybodaeth. Mwy o wybodaeth
    £45.00

  5. Ar y Fferm: Llyfr a jig-so

    Ar y Fferm: Llyfr a jig-so

    Jig-so 100-darn gyda darlun bywiog yn dangos buarth fferm prysur, ynghyd â llyfr posau 24 tudalen a gyflwynir gyda'i gilydd mewn bocs lliwgar, cadarn. Mae'r jig-so a'r llyfr posau yn llawn pethau i'w gweld a'u trafod. Allwch chi weld buwch yn gwisgo cloch, pum llwynog, hwyaden blastig a llawer mwy? Mwy o wybodaeth
    £14.99

  6. Datrys Problemau ... dechrau da! 1

    Datrys Problemau ... dechrau da! 1

    Pecyn newydd i gefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol.

    Nod Datrys Problemau .… dechrau da! ydy cefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol. Dyma becyn sy’n gosod y plentyn yn y canol ac sy’n gosod pwyslais ar gynnig ramweithiau pwrpasol i’r addysgu a’r dysgu.

    Mae Datrys Problemau .… dechrau da! yn hybu’r sgiliau sylfaenol a fydd hefyd yn galluogi’r plentyn i lwyddo ac ennill boddhad o’u profiad ym maes mathemateg.

    Mwy o wybodaeth
    £34.99

  7. Olion Traed Bach: Pwy sy'n Chwifio ei Adenydd yn y Fforest?

    Olion Traed Bach: Pwy sy'n Chwifio ei Adenydd yn y Fforest?

    Llyfr lliwio a gweithgareddau sy'n addysgu plentyn am fywyd gwyllt a'r amgylchedd.

    Mae Olion Traed Bach yn cynnig cyfle i blant i edrych ar amgylcheddau gwahanol. Mae cyfle i'r plant i liwio a gwneud amrywiol weithgareddau. Cyfle i edrych ar y pethau hynny sy'n peryglu dyfodol nifer o anifeiliaid prin.

    Mwy o wybodaeth
    £3.99

  8. Olion Traed Bach: Beth sy'n Wyllt yn y Goedwig Law?

    Olion Traed Bach: Beth sy'n Wyllt yn y Goedwig Law?

    Llyfr lliwio a gweithgareddau sy'n addysgu plentyn am fywyd gwyllt a'r amgylchedd.

    Mae Olion Traed Bach yn cynnig cyfle i blant i edrych ar amgylcheddau gwahanol. Mae cyfle i'r plant i liwio a gwneud amrywiol weithgareddau. Cyfle i edrych ar y pethau hynny sy'n peryglu dyfodol nifer o anifeiliaid prin.

    Mwy o wybodaeth
    £3.99

  9. Codi Fflap: Pi-Po i ffwrdd â ni!

    Codi Fflap: Pi-Po i ffwrdd â ni!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.

    Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Coronafeirws: Llyfr i blant

    Coronafeirws: Llyfr i blant

    Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.

    Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.

    Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:

    • Beth yw’r coronafeirws?
    • Sut mae rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Pam mae pobl yn poeni am ddal y coronafeirws?
    • A oes ffordd o wella pobl o’r coronafeirws?
    • Pam mae rhai o’r llefydd rydyn ni fel arfer yn ymweld â nhw ar gau?
    • Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
    • Beth alli di ei wneud i helpu?
    • Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?

    Gellir gweld y llyfr drwy edrych ar yr e-lyfr uchod neu drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.

    Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 11