Mae'r set yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Tu mewn mae llyfr bwrdd gyda golygfeydd prysur o fyd siopa yn llawn gwrthrychau i'w gweld a'u darganfod, yn ogystal â 15 darn jig-so trwchus i'w gosod yn nhudalennau'r llyfr.
Mwy o wybodaeth
Beth grëwn ni, ti a fi?
Fe wna i dy ddyfodol di, a tithau f’un i.
Gwnawn oriawr i gadw’n holl amser ni.
Yn gyntaf, gad inni gasglu’r offer i gyd. Er mwyn rhoi at ei gilydd … a thynnu’n rhydd.
Mae tad a’i ferch yn mynd ati i osod seiliau eu bywyd gyda’i gilydd. Â’u hoffer arbennig, maen nhw’n creu atgofion, yn codi cartref diogel ac yn meithrin cariad i’w cadw’n gynnes.
Dyma stori oesol am gariad bythol rhiant, am bosibiliadau rhyfeddol bywyd ac am yr hyn sydd ei angen er mwyn adeiladu’r dyfodol.
Cyfuniad unigryw o luniau a geiriau gan yr artist a’r awdur byd-enwog, Oliver Jeffers.
Cyfres o lyfrau ffeithiol sy'n cynnig cyfle i ddysgwyr 3-5 oed rannu a mwynhau darllen gyda'i gilydd. Bydd 5 pecyn (5 thema) ar gyfer yr oedran hwn. Ymhob pecyn, ceir:
• 36 llyfr darllen (6 theitl gwahanol – 3 haen is a 3 haen uwch; 6 chopi o bob un ohonyn nhw)
• 6 llyfr oedolyn (1 i gyd-fynd â phob llyfr darllen, gydag awgrymiadau am strategaethau darllen a gweithgareddau, a grid geiriau)
• Teitlau llyfrau darllen y pecyn hwn: Esgyrn; Llysiau Taid; Anifeiliaid o dan fy nhraed; Ffrindiau bach, bach; Tŷ newydd sbon; Twneli.
• Estyniad i gyfres bobologaidd y Gwybodyn.
• Bydd y pecynnau cynhwysfawr hyn yn meithrin a datblygu hoffter dysgwyr o ddarllen, yn gwella eu sgiliau siarad a gwrando, yn eu cyflwyno i wahanol themâu ac arddulliau ysgrifennu, ac yn eu hannog i chwilio am ragor o wybodaeth.
Mwy o wybodaeth
Pecyn o wyth o lyfrau ffuglen ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu darllen Cymraeg. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau.
Mae'r pecyn yn cynnwys:
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Caffi
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Parc
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Fferm
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Parti
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Sinema
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Gampfa
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Siop
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Ardd
Mae'r set yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Tu mewn mae llyfr bwrdd gyda golygfeydd prysur o fyd ceir rasio yn llawn gwrthrychau i'w gweld a'u darganfod, yn ogystal â 15 darn jig-so trwchus i'w gosod yn nhudalennau'r llyfr.
Mwy o wybodaeth