Llyfr stori dwyieithog cafodd ei ddatblygu ar y cyd gyda Mudiad Ysgolion Meithrin.
Bwriad 'Mae'n Iawn bod yn Wahanol' ydy ysbrydoli plant (ac oedolion!) i ddathlu'r gwahaniaethau rhwng un plentyn a'r llall, a thrwy hynny dderbyn pawb fel y maen nhw a meithrin hunanhyder.
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!
Ffordd hwyliog i ddysgu plant sut i ddweud yr amser. Bydd plant wrth eu boddau yn gosod y clociau magnetig ar y tudalennau perthnasol er mwyn sicrhau bod yr amser yn gywir ar bob darlun.
Llyfr sy'n cynnig oriau o hwyl ac yn annog plant i ddysgu sut i ddweud yr amser.
Mwy o wybodaeth
Llyfr bwrdd lliwgar sy'n cyflwyno rhifau o 1 i 20.
Mae'r tudalennau'n cynnwys delweddau cyfoes a thrawiadol gyda rhifau a rhifolion yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n lyfr rhyngweithiol sy'n gofyn cwestiynnau ac mae'n rhaid codi'r fflap i ddarganfod yr ateb. Llyfr sy'n helpu teuluoedd i ddatblygu sgiliau cyfri, datblygu sgiliau siarad a sgiliau cyd symud llygad y plentyn.
Mwy o wybodaeth
Regular Price: £6.99
Pris Arbennig £3.50
Llyfr lliwio a gweithgareddau sy'n addysgu plentyn am fywyd gwyllt a'r amgylchedd.
Mae Olion Traed Bach yn cynnig cyfle i blant i edrych ar amgylcheddau gwahanol. Mae cyfle i'r plant i liwio a gwneud amrywiol weithgareddau. Cyfle i edrych ar y pethau hynny sy'n peryglu dyfodol nifer o anifeiliaid prin.
Mwy o wybodaethRegular Price: £3.99
Pris Arbennig £2.00
Mae pob plentyn yn hoffi chwarae pi - po ac yn y llyfr dwyieithog hwn cewch gwrdd ag anifeiliaid sy'n cuddio dan y fflapiau!
Mae Pi-Po Fferm yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.
Mwy o wybodaeth
Llyfr stori sy'n sôn am antur i'r lleuad gyda'r darllenydd yn rhan o'r stori!
Addas i blant y Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfnod Sylfaen.
Mwy o wybodaeth
Llyfr lliwio a gweithgareddau sy'n addysgu plentyn am fywyd gwyllt a'r amgylchedd.
Mae Olion Traed Bach yn cynnig cyfle i blant i edrych ar amgylcheddau gwahanol. Mae cyfle i'r plant i liwio a gwneud amrywiol weithgareddau. Cyfle i edrych ar y pethau hynny sy'n peryglu dyfodol nifer o anifeiliaid prin.
Mwy o wybodaethRegular Price: £3.99
Pris Arbennig £2.00