CYNNIG ARBENNIG
Mae'r 2 lyfr yma'n costio £6.99 yr un ond drwy eu prynu fel pecyn byddwch yn arbed £4!
2 lyfr yn cynnwys lluniau trawiadol a thestun rhyngweithiol sy'n odli. Cyfle gwych i gyffwrdd ac arbrofi gyda'r lluniau trawiadol a'r tudalennau defnydd meddal.
Gallwch eu golchi yn y peiriant golchi. 2 lyfr dwyieithog mewn bocs anrheg arbennig.
Regular Price: £14.00
Pris Arbennig £10.00
Beth grëwn ni, ti a fi?
Fe wna i dy ddyfodol di, a tithau f’un i.
Gwnawn oriawr i gadw’n holl amser ni.
Yn gyntaf, gad inni gasglu’r offer i gyd. Er mwyn rhoi at ei gilydd … a thynnu’n rhydd.
Mae tad a’i ferch yn mynd ati i osod seiliau eu bywyd gyda’i gilydd. Â’u hoffer arbennig, maen nhw’n creu atgofion, yn codi cartref diogel ac yn meithrin cariad i’w cadw’n gynnes.
Dyma stori oesol am gariad bythol rhiant, am bosibiliadau rhyfeddol bywyd ac am yr hyn sydd ei angen er mwyn adeiladu’r dyfodol.
Cyfuniad unigryw o luniau a geiriau gan yr artist a’r awdur byd-enwog, Oliver Jeffers.