Llyfr stori dwyieithog cafodd ei ddatblygu ar y cyd gyda Mudiad Ysgolion Meithrin.
Bwriad 'Mae'n Iawn bod yn Wahanol' ydy ysbrydoli plant (ac oedolion!) i ddathlu'r gwahaniaethau rhwng un plentyn a'r llall, a thrwy hynny dderbyn pawb fel y maen nhw a meithrin hunanhyder.
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!
Llyfr bwrdd deniadol a dwyieithog sy'n cynorthwyo plant i ddysgu rhifau a dechrau cyfri.
Mae'r tudalennau lliwgar yn cynnwys delweddau o fwydydd, teganau, planhigion, anifeiliaid - pob math o bethau difyr i annog y plant i gyfri! Mae'r rhifau wedi eu hysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac hefyd i'w gweld fel rhifolion. Anrheg poblogaidd iawn!
Mwy o wybodaeth