COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 56

  1. 100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    Diweddariad o lyfr bwrdd Geiriau, Lliwiau, Siapiau yng nghyfres 100. 

    Llyfr bwrdd cadarn sy'n cyflwyno geiriau, lliwiau a siapiau i blant ifanc.

    Dyddiad Cyhoeddi: Ionawr 2019

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Coronafeirws: Llyfr i blant

    Coronafeirws: Llyfr i blant

    Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.

    Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.

    Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:

    • Beth yw’r coronafeirws?
    • Sut mae rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Pam mae pobl yn poeni am ddal y coronafeirws?
    • A oes ffordd o wella pobl o’r coronafeirws?
    • Pam mae rhai o’r llefydd rydyn ni fel arfer yn ymweld â nhw ar gau?
    • Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
    • Beth alli di ei wneud i helpu?
    • Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?

    Gellir gweld y llyfr drwy edrych ar yr e-lyfr uchod neu drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.

    Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  3. Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Gampfa

    Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Gampfa

    Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a Meg yn cadw'n heini wrth fentro i'r gampfa. *Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.

    *Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.

    Mwy o wybodaeth
    £3.50

  4. Amser Chwarae – Achub Anifeiliaid

    Amser Chwarae – Achub Anifeiliaid

    Amser Chwarae - Achub Anifeiliaid. Dyma adnodd ac anrheg gwych sy'n caniatáu i blant chwarae rôl a defnyddio’u dychymyg. Mae'r bocs yn cynnwys 15 darn jig-so sy'n ffitio mewn i'r llyfr bwrdd mawr lliwgar. Ffordd wych o ddatblygu sgiliau cydsymud a datrys problemau. Mwy o wybodaeth
    £11.99

  5. Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Allwch chi ddod o hyd i Sgodyn Streipiog a'i ffrindiau'n cuddio tu ôl i'r fflapiau? Gwyliwch rhag ofn iddyn nhw neidio allan!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Amser Chwarae: Ceir Rasio

    Amser Chwarae: Ceir Rasio

    Mae'r set yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Tu mewn mae llyfr bwrdd gyda golygfeydd prysur o fyd ceir rasio yn llawn gwrthrychau i'w gweld a'u darganfod, yn ogystal â 15 darn jig-so trwchus i'w gosod yn nhudalennau'r llyfr.

    Mwy o wybodaeth
    £11.99

  7. Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Fferm

    Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Fferm

    Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a Meg yn mwynhau eu hymweliad â'r fferm.

    *Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.

    Mwy o wybodaeth
    £3.50

  8. O dan fy Nhraed

    O dan fy Nhraed

    Cyfres o lyfrau ffeithiol sy'n cynnig cyfle i ddysgwyr 3-5 oed rannu a mwynhau darllen gyda'i gilydd. Bydd 5 pecyn (5 thema) ar gyfer yr oedran hwn. Ymhob pecyn, ceir:

    • 36 llyfr darllen (6 theitl gwahanol – 3 haen is a 3 haen uwch; 6 chopi o bob un ohonyn nhw)

    • 6 llyfr oedolyn (1 i gyd-fynd â phob llyfr darllen, gydag awgrymiadau am strategaethau darllen a gweithgareddau, a grid geiriau)

    • Teitlau llyfrau darllen y pecyn hwn: Esgyrn; Llysiau Taid; Anifeiliaid o dan fy nhraed; Ffrindiau bach, bach; Tŷ newydd sbon; Twneli.

    • Estyniad i gyfres bobologaidd y Gwybodyn.

    • Bydd y pecynnau cynhwysfawr hyn yn meithrin a datblygu hoffter dysgwyr o ddarllen, yn gwella eu sgiliau siarad a gwrando, yn eu cyflwyno i wahanol themâu ac arddulliau ysgrifennu, ac yn eu hannog i chwilio am ragor o wybodaeth.

     

    Mwy o wybodaeth
    £45.00

  9. Amser Chwarae: Ar y Fferm

    Amser Chwarae: Ar y Fferm

    Mae'r set yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Tu mewn mae llyfr bwrdd gyda golygfeydd prysur o fyd y fferm yn llawn gwrthrychau i'w gweld a'u darganfod, yn ogystal â 15 darn jig-so trwchus i'w gosod yn nhudalennau'r llyfr.

    Mwy o wybodaeth
    £11.99

  10. Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Caffi

    Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Caffi

    Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a Meg yn mwynhau pryd blasus o fwyd yn y caffi.

    *Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.

    Mwy o wybodaeth
    £3.50

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 56