Ysbrydolwyd y ddrama gan awydd Aled i archwilio ein mythau ni fel cenedl:
Y Mabinogi.
Beth sy’n digwydd pan fo myth yn torri lawr a chwalu?
A ddaw myth newydd i gymryd ei le?
Oes rhywbeth ynddynt o hyd sy’n werthfawr a all gyfoethogi ein bywydau?
Drama ddifyr, ddeifiol a chignoeth am golli ffydd ac am bosibilrwydd y tynerwch dynol all oroesi.
Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).
Mwy o wybodaeth