Llawlyfr adolygu ar gyfer gwella sgiliau ieithyddol myfyrwyr s'yn astudio Cymraeg TGAU, Cymraeg Safon Uwch neu ar gyfer oedolion sydd am loyw'ir Gymraeg.
Mae Seren Iaith yn cynnwys dros 200 o ymarferion ieithyddol. Mae hanner cyntaf y llyfr yn cynnwys ymarferion ar elfennau unigol. Mae'r ail hanner yn canolbwyntio ar gyfuno'r elfennau ieithyddol a welwyd yn y rhan gyntaf. Mae'r drydedd rhan yn cynnwys yr atebion.
Mwy o wybodaeth
Casgliad o dros 200 o ymarferion i'ch cynorthwyo i ddefnyddio Cymraeg yn llwyddiannus.
Llyfr hanfodol i brofi eich gallu i ysgrifennu Cymraeg yn gywir. Addas ar gyfer TGAU, UG, Lefel A, addysg bellach ac oedolion.
Mwy o wybodaeth
Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...
Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.
3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal
Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!