COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 23

  1. Madi

    Madi

    Nofel gan Dewi Wyn Williams am ferch ifanc sy'n byw gydag anorecsia a bwlimia ac sy'n cuddio'r salwch. 'Roeddwn i'n wyth oed. Ac ar ddeiet.' Perffeithrwydd, hunaniaeth, rheolaeth. Sut gall Madi ddod o hyd i'r rhain mewn byd amherffaith, cystadleuol ac afreolus, a dim ond unigrwydd iddi'n gwmni? Nid yw stori Madi'n ddarllen cyfforddus, ac er bod y nofel yn llawn hiwmor tywyll a sylwadau crafog, mae'r cynnwys yn gignoeth. Dyma nofel heriol i'n cymdeithas fodern, a'i harddull a'i themâu anghonfensiynol yn torri cwys newydd. 

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

  2. Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...

    Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.

    3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal

    Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!



    Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!

    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  3. Lleu Llaw Gyffes gan Aled Jones Williams

    Lleu Llaw Gyffes gan Aled Jones Williams

    Ysbrydolwyd y ddrama gan awydd Aled i archwilio ein mythau ni fel cenedl:
    Y Mabinogi.

    Beth sy’n digwydd pan fo myth yn torri lawr a chwalu?

    A ddaw myth newydd i gymryd ei le?

    Oes rhywbeth ynddynt o hyd sy’n werthfawr a all gyfoethogi ein bywydau?

    Drama ddifyr, ddeifiol a chignoeth am golli ffydd ac am bosibilrwydd y tynerwch dynol all oroesi.

    Mwy o wybodaeth
    £5.00

  4. Cyflwyniad i Hanes yr Ewrop Fodern, 1890-1990

    Cyflwyniad i Hanes yr Ewrop Fodern, 1890-1990

    Addasiad Cymraeg o werslyfr defnyddiol sy'n ymdrin â phrif themâu cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol hanes Ewrop rhwng 1890 a 1990, yn cynnwys dadansoddiad o darddiad y Rhyfel Byd Cyntaf, Chwyldro Rwsia a chwymp Comiwnyddiaeth, ynghyd â chwestiynau strwythuredig. Mwy o wybodaeth
    £13.99

  5. Siwan a Cherddi Eraill

    Siwan a Cherddi Eraill

    Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Daearyddiaeth TGAU: Gwaith Maes - datblygu sgiliau ymchwilio

    Daearyddiaeth TGAU: Gwaith Maes - datblygu sgiliau ymchwilio

    Matiau daearyddol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi ac ymchwilio. Ffocws penodol ar gyfer meithrin sgiliau gwaith maes. Cyfle ar gyfer gwaith fesul dau neu gwaith grŵp yn ogystal â meithrin cydweithio. Cyfres o fatiau daearyddol fydd yn sefydlu dulliau ymarferol a phwrpasol ar gyfer cynnal gwaith maes.

    www.gcsegeography.cymru

    Mwy o wybodaeth
    £14.95

  7. Datblygiad y Plentyn TGAU - Y Llyfr Adolygu

    Datblygiad y Plentyn TGAU - Y Llyfr Adolygu

    Llyfr adolygu ar gyfer astudio Datblygiad y Plentyn TGAU.

    Mae'r llyfr adolygu yn hawdd i'w ddefnyddio ac yn cynnwys adrannau ar ddechrau teulu, beichiogrwydd a bod yn rhieni, gofal a datblygiad y plentyn, gofal cymdeithasol a gwaith cwrs.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £4.95

    Pris Arbennig £3.47

  8. Ac Yna Clywodd Sŵn yn y Môr - Llyfr Adolygu TGAU

    Ac Yna Clywodd Sŵn yn y Môr - Llyfr Adolygu TGAU

    Nodiadau adolygu gan Nona Breese ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r llyfr 'Ac Yna Clywodd Swn yn y Mor' gan Alun Jones, fel llyfr gosod TGAU.

    Mewn un llyfr adolygu hwylus ceir crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith, cymeriadau, themau, technegau, arddull, esbonio dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol, a chymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.

    Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Llyfr Adolygu Dylunio a Thechnoleg TGAU: Technoleg Bwyd

    Llyfr Adolygu Dylunio a Thechnoleg TGAU: Technoleg Bwyd

    Addasiad Cymraeg o lyfr adolygu darluniadol i ddisgyblion sy'n paratoi ar gyfer arholiad Technoleg Bwyd safon TGAU. Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £4.50

    Pris Arbennig £2.25

  10. TGAU Daearyddiaeth ar Gyfer Manyleb B CBAC - Llawlyfr Adolygu

    TGAU Daearyddiaeth ar Gyfer Manyleb B CBAC - Llawlyfr Adolygu

    Llawlyfr adolygu wedi'i baratoi gan y Prif Arholwr ar gyfer Daearyddiaeth TGAU Manyleb B. Bwriad y gyfrol ydy adolygu'r wybodaeth a hybu dealltwriaeth o'r pwnc yn ogystal â chynnig cyngor ac ymarfer ar gyfer yr arholiadau. Mwy o wybodaeth
    £7.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 23