COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 25

  1. Cyflwyniad i Hanes yr Ewrop Fodern, 1890-1990

    Cyflwyniad i Hanes yr Ewrop Fodern, 1890-1990

    Addasiad Cymraeg o werslyfr defnyddiol sy'n ymdrin â phrif themâu cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol hanes Ewrop rhwng 1890 a 1990, yn cynnwys dadansoddiad o darddiad y Rhyfel Byd Cyntaf, Chwyldro Rwsia a chwymp Comiwnyddiaeth, ynghyd â chwestiynau strwythuredig. Mwy o wybodaeth
    £13.99

  2. Siwan a Cherddi Eraill

    Siwan a Cherddi Eraill

    Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Madi

    Madi

    Nofel gan Dewi Wyn Williams am ferch ifanc sy'n byw gydag anorecsia a bwlimia ac sy'n cuddio'r salwch. 'Roeddwn i'n wyth oed. Ac ar ddeiet.' Perffeithrwydd, hunaniaeth, rheolaeth. Sut gall Madi ddod o hyd i'r rhain mewn byd amherffaith, cystadleuol ac afreolus, a dim ond unigrwydd iddi'n gwmni? Nid yw stori Madi'n ddarllen cyfforddus, ac er bod y nofel yn llawn hiwmor tywyll a sylwadau crafog, mae'r cynnwys yn gignoeth. Dyma nofel heriol i'n cymdeithas fodern, a'i harddull a'i themâu anghonfensiynol yn torri cwys newydd. 

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

  4. GCSE Geography: Fieldwork - developing enquiry skills

    GCSE Geography: Fieldwork - developing enquiry skills

    Geography placemat materials aimed at Key Stage 4 learners to support generic enquiry/research and fieldwork skills in Geography. Designed to cover the most frequently developed topic areas in GCSE Geography. The materials are designed for collaborative and group work.

    www.gcsegeography.cymru

    Geographical Association Publishers' Award 2018 - Silver Category Award Winner

    Mwy o wybodaeth
    £14.95

  5. Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...

    Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.

    3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal

    Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!



    Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!

    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  6. Lleu Llaw Gyffes gan Aled Jones Williams

    Lleu Llaw Gyffes gan Aled Jones Williams

    Ysbrydolwyd y ddrama gan awydd Aled i archwilio ein mythau ni fel cenedl:
    Y Mabinogi.

    Beth sy’n digwydd pan fo myth yn torri lawr a chwalu?

    A ddaw myth newydd i gymryd ei le?

    Oes rhywbeth ynddynt o hyd sy’n werthfawr a all gyfoethogi ein bywydau?

    Drama ddifyr, ddeifiol a chignoeth am golli ffydd ac am bosibilrwydd y tynerwch dynol all oroesi.

    Mwy o wybodaeth
    £5.00

  7. Daearyddiaeth TGAU: Pecyn Gwaith Maes

    Daearyddiaeth TGAU: Pecyn Gwaith Maes

    Pecyn dwyieithog o fatiau daearyddol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi ac ymchwilio. Cyfres o fatiau daearyddol fydd yn sefydlu dulliau ymarferol a phwrpasol ar gyfer cynnal gwaith maes.

    A bilingual pack of geography placemat materials aimed at Key Stage 4 learners to support generic enquiry/research and fieldwork skills in Geography.

    www.gcsegeography.cymru

    Mwy o wybodaeth
    £24.99

  8. Daearyddiaeth TGAU: Gwaith Maes - datblygu sgiliau ymchwilio

    Daearyddiaeth TGAU: Gwaith Maes - datblygu sgiliau ymchwilio

    Matiau daearyddol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi ac ymchwilio. Ffocws penodol ar gyfer meithrin sgiliau gwaith maes. Cyfle ar gyfer gwaith fesul dau neu gwaith grŵp yn ogystal â meithrin cydweithio. Cyfres o fatiau daearyddol fydd yn sefydlu dulliau ymarferol a phwrpasol ar gyfer cynnal gwaith maes.

    www.gcsegeography.cymru

    Mwy o wybodaeth
    £14.95

  9. Bachgen yn y Mor - Llyfr Adolygu Cymraeg TGAU

    Bachgen yn y Mor - Llyfr Adolygu Cymraeg TGAU

    Nodiadau adolygu gan Sioned Mair Jones ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Bachgen yn y Môr gan Morris Gleitzman (addasiad Elin Meek) fel llyfr gosod TGAU.

    Mewn un llyfr hwylus ceir; crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol, cymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.

    Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  10. Llyfr Adolygu Dylunio a Thechnoleg TGAU: Cynhyrchion Graffig

    Llyfr Adolygu Dylunio a Thechnoleg TGAU: Cynhyrchion Graffig

    Addasiad Cymraeg o lyfr adolygu darluniadol lliwgar i gynorthwyo disgyblion sy'n paratoi ar gyfer arholiad TGAU Dylunio a Thechnoleg; Addas i ddisgyblion CA4. Mwy o wybodaeth
    £4.50

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 25