Cyfres o lyfrau ffeithiol sy’n cynnig cyfle i ddysgwyr 7- 9 oed rannu a mwynhau darllen gyda’i gilydd. Bydd 5 pecyn (5 thema) ar gyfer yr oedran hwn. Ymhob pecyn, ceir:
• 36 llyfr darllen (6 theitl gwahanol – 3 haen is a 3 haen uwch; 6 chopi o bob un ohonyn nhw)
• 6 llyfr oedolyn (1 i gyd-fynd â phob llyfr darllen, gydag awgrymiadau am strategaethau darllen a gweithgareddau, a grid geiriau).
• Teitlau llyfrau darllen pecyn ‘Ar blât’ yw: Bwyd – tanwydd i’r corff, Bwydydd Cymru a’r byd, Deiets arbennig, Y daith i’r plât, Defnyddio a mwynhau bwyd, Bwyd i bawb o bobl y byd.
• Estyniad i gyfres boblogaidd y Gwybodyn.
• Bydd y pecynnau cynhwysfawr hyn yn meithrin a datblygu hoffter dysgwyr o ddarllen, yn gwella eu sgiliau siarad a gwrando, yn eu cyflwyno i wahanol themâu ac arddulliau ysgrifennu, ac yn eu hannog i chwilio am ragor o wybodaeth.
Mwy o wybodaeth