Dewch i gwrdd â Cadi, camelion sydd wedi diflasu ar fod yn frown ac yn wyrdd trwy'r amser. Ond wrth iddi dynnu sylw ei ffrindiau, mae'n dysgu nad yw dangos ei hun yn beth da bob tro.
Llyfr stori dwyieithog i blant bach.
Mwy o wybodaeth
Cyfres o lyfrau darllen yw Dewch i Chwilio sy'n cyflwyno gwyddoniaeth i blant ifanc. Bwriad y gyfres ydy meithrin diddordeb mewn gwyddoniaeth ... a chreu awydd i ymchwilio ymhellach.
Dewch i weld y maes awyr cyn codi i'r awyr las uwchben!
Mwy o wybodaeth
Llyfr sticeri dwyieithog i blant.
Mae’r fferm yn lle prysur, yn llawn anifeiliaid a pheiriannau o bob math. Defnyddiwch y sticeri yng nghefn y llyfr i ddod â phob llun yn fyw.
150 o sticeri lliwgar!
Mêl yw hoff fwyd Douglas, ac wrth baratoi cacen fêl mae Douglas wedi cyffroi'n lan! Tybed a yw'n ddigon dewr i flasu rhywbeth gwahanol?
Llyfr dwyieithog sydd yn annog plant i flasu bwydydd gwahanol.
Mwy o wybodaeth
Mae gweld effaith cynhesu byd eang ar yr anifeiliaid wedi gwylltio Freya. Doedd dim amdani ond sefydlu criw Planed Plant, criw o blant fydd yn gweithredu er mwyn gwella'r sefyllfa. Erbyn hyn mae yna aelodau ymhobcwr or byd!
Darllena'r llyfr er mwyn ymaelodi a'r criw a dysgu pa newidiadau bach alli di wneud er lles yr anifeiliaid a'r amgylchfyd.
Dyma lyfr ffeithiol difyr a deniadol sy'n dysgu plant am sut all y camau bach arwain at gamau mawr wrth frwydro yn erbyn cynhesu byd eang.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o 'Funny Bunnies: Up and Down' gan David Melling.
Llyfr am gwningod annarferol, doniol sy'n caru neidio i fyny ac i lawr ar bolion pogo! Yn y llyfr lliwgar hwn, bydd plant ifanc yn dysgu am eiriau croes yng nghwmni'r Cwning-Od hoffus!
Mwy o wybodaeth
Mae gan Douglas broblem fawr, ond mae Douglas yn gwybod ei fod yn gallu dibynnu ar Dad!
Addasiad dwyieithog o 'Don't Worry, Hugless Douglas.'
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!