Addasiad dwyieithog o 'Milly the Meerkat' gan Oakley Graham.
Llyfr stori dwyieithog am Mili'r Mircat - anifail bach drygionus sy'n dod i ddysgu nad yw'n syniad da i ddweud celwydd.
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o 'Funny Bunnies: Up and Down' gan David Melling.
Llyfr am gwningod annarferol, doniol sy'n caru neidio i fyny ac i lawr ar bolion pogo! Yn y llyfr lliwgar hwn, bydd plant ifanc yn dysgu am eiriau croes yng nghwmni'r Cwning-Od hoffus!
Mwy o wybodaeth
Addasiad dwyieithog o 'Hugless Douglas' gan David Melling.
Weithiau, dim ond cwtsh mawr sy'n gwneud y tro. Mae Douglas yr arth fach frown eisiau cwtsh ... ond sut mae dod o hyd i'r cwtsh gorau yn y byd?
Mwy o wybodaethOut of stock
Mêl yw hoff fwyd Douglas, ac wrth baratoi cacen fêl mae Douglas wedi cyffroi'n lan! Tybed a yw'n ddigon dewr i flasu rhywbeth gwahanol?
Llyfr dwyieithog sydd yn annog plant i flasu bwydydd gwahanol.
Mwy o wybodaeth
Dewch i gwrdd â Cadi, camelion sydd wedi diflasu ar fod yn frown ac yn wyrdd trwy'r amser. Ond wrth iddi dynnu sylw ei ffrindiau, mae'n dysgu nad yw dangos ei hun yn beth da bob tro.
Llyfr stori dwyieithog i blant bach.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o 'Funny Bunnies - Rain or Shine' gan David Melling.
Dewch i ddysgu am y tywydd yng nghwmni'r Cwning-od, creaduriaid doniol ac egniol.
Llyfrau darllen gyda darluniau trawiadol a thestun sy'n odli
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad Cymraeg gan Eurig Salisbury o 'The Lion Inside'.
Llyfr stori gynnes gyda thestun sy'n odli ac sydd hefyd â neges arbennig i'w dysgu. Y prif gymeriad yw llygoden fach sy'n ceisio ennill ei phlwyf yng nghanol yr anifeiliaid mawr! Ar ddiwedd y daith mae'n darganfod ei llais ei hun ac yn dysgu bod gan bob anifail, boed fawr neu fach, ran bwysig i'w chwarae yn y byd.
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!