Mae Ffred a’i ffwlbart yn ffrindiau gorau
ond digwyddodd rhywbeth od un bore
wnaeth newid lliw trwyn Anti Gyrti –
ar fy ngwir! Dyma’r stori ...
Dewch i gwrdd â Ffred a’i ffwlbart yn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau stori-a-llun am ffrindiau bach direidus.
Stori llawn hwyl gyda thestun sy’n odli yn seiliedig ar un o’n dywediadau Cymraeg mwyaf od!
Stori gan Sioned Wyn Roberts. Arlunwaith Bethan Mai.
Mae cyfle isod i chi gwrdd â Sioned Wyn Roberts a Bethan Mai, awdur ac arlunydd y llyfr! Fe gawn glywed beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r llyfr a chawn flas ar y stori unigryw sy’n mynd â ni ar antur i ddatrys problem ddrewllyd iawn...
Llyfr stori a llun gwreiddiol, sy’n dilyn Michewa, merch 7 oed. Un diwrnod i brofi ei hun i’w thad (sy’n Dywysydd Mynydd llwyddiannus) mae hi’n mynd ati i ddringo’r ‘Mynydd Unig’ ger ei phentref coedwig yn Tibet. Mae’r mynydd penodol hwn wedi’i orchuddio â dirgelwch a pherygl. Fodd bynnag, mae hi’n benderfynol o ddringo’r mynydd ac yn llenwi ei bag gydag eitemau hanfodol a llinyn o fflagiau gweddi y mae’n bwriadu eu gosod ar y copa. Pan ddaw eirlithriad, storm a chwymp eira, datgelir cyfrinach yn y lluniau sy’n ei hachub bob tro ac yn y pen draw yn ei dychwelyd i ymyl y goedwig.
Stori syml yw hon sy’n cyflwyno emosiynau fel unigedd, edifarhad a rhyddhad ynghyd â nodweddion amgylcheddol a chyfeiriadau diwylliannol newydd, gan greu antur gyffrous sy’n procio’r meddwl.
Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd.
Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd.
Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!
Mwy o wybodaeth
Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.
Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.
Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:
• Beth yw’r coronafeirws?
• Sut mae rhywun yn dal y coronafeirws?
• Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal y coronafeirws?
• Pam mae pobl yn poeni am ddal y coronafeirws?
• A oes ffordd o wella pobl o’r coronafeirws?
• Pam mae rhai o’r llefydd rydyn ni fel arfer yn ymweld â nhw ar gau?
• Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
• Beth alli di ei wneud i helpu?
• Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?
Gellir gweld y llyfr drwy edrych ar yr e-lyfr uchod neu drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.
Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.
Pecyn o wyth o lyfrau ffuglen ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu darllen Cymraeg. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau.
Mae'r pecyn yn cynnwys:
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Caffi
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Parc
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Fferm
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Parti
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Sinema
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Gampfa
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Siop
- Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Ardd
Pecyn newydd i gefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol
Nod Datrys Problemau... Dechrau Da! ydy cefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol. Dyma becyn sy’n gosod y plentyn yn y canol ac sy’n gosod pwyslais ar gynnig ramweithiau pwrpasol i’r addysgu a’r dysgu.
Mae Datrys Problemau... Dechrau Da! yn hybu’r sgiliau sylfaenol a fydd hefyd yn galluogi’r plentyn i lwyddo ac ennill boddhad o’u profiad ym maes mathemateg.
Mwy o wybodaeth
Mae gweld effaith cynhesu byd eang ar yr anifeiliaid wedi gwylltio Freya. Doedd dim amdani ond sefydlu criw Planed Plant, criw o blant fydd yn gweithredu er mwyn gwella'r sefyllfa. Erbyn hyn mae yna aelodau ymhobcwr or byd!
Darllena'r llyfr er mwyn ymaelodi a'r criw a dysgu pa newidiadau bach alli di wneud er lles yr anifeiliaid a'r amgylchfyd.
Dyma lyfr ffeithiol difyr a deniadol sy'n dysgu plant am sut all y camau bach arwain at gamau mawr wrth frwydro yn erbyn cynhesu byd eang.
Mwy o wybodaeth
Pecyn o gardiau fflach Lleu Llygoden sy'n helpu plant i gyfri ac ysgrifennu rhifau o 1 - 20.
Gellir sychu'r cardiau i'w defnyddio dro ar ôl tro. Mae'r cardiau, pen a chlwtyn sychu wedi'i pecynnu mewn bocs bach defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer siwrnai hir.
Cyfarwyddiadau dwyieithog.
Mwy o wybodaeth