COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 75

  1. Pecyn Thematig Llythrennedd: Byd Nad yw'n Bod - Cardiau

    Pecyn Thematig Llythrennedd: Byd Nad yw'n Bod - Cardiau

    Un o gyfres o dri phecyn o weithgareddau thematig ar gyfer disgyblion 7-9 oed yn bennaf.

    Mae'r pecyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau sy'n amrywio o fyd ffantasi a chwedloniaeth i fyd hanes a ffaith. Mae un ochr y cerdyn yn cynnwys deunydd ffuglen a ffeithiol tra bod amrywiaeth o weithgareddau ar yr ochr arall.

    Mwy o wybodaeth
    £13.00

  2. Sgram! Cerddi Blasus

    Sgram! Cerddi Blasus

    Casgliad o gerddi blasus gyda lluniau lliwgar a deniadol. Ceir cerddi ar amryw o themu gwahanol gan gynnwys bwyd, dillad, teithio a'r tywydd. Ceir geirfa ar bob tudalen sy'n gwneud y casgliad yn addas ar gyfer dysgwyr yn ogystal a siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  3. Help gyda Gwaith Cartref - Pecyn Llythrennedd CA2

    Help gyda Gwaith Cartref - Pecyn Llythrennedd CA2

    Pecyn o 4 llyfr gwaith cartref i gynorthwyo disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gydau gwaith llythrennedd.

    Gair o eglurhad!
    Mae rhai o’r staplau yn y gyfres hon yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris o £15.96 i £12.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym wedi penderfynu cynnwys y gyfres fel cynnig arbennig.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £15.96

    Pris Arbennig £12.99

  4. Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Gwydr

    Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Gwydr

    Cyfres sy'n dangos sut mae pobl o amgylch y byd yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu rhai o adnoddau pwysicaf y byd. Mae'r llyfr yn cynnwys nifer o syniadau y gall plant eu gwneud yn y cartref neu'r ysgol. Rhan o'r gyfres Ailddefnyddio ac Ailgylchu sy'n cynnwys 5 llyfr gwahanol. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Dillad

    Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Dillad

    Cyfres sy'n dangos sut mae pobl o amgylch y byd yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu rhai o adnoddau pwysicaf y byd. Rhan o'r gyfres Ailddefnyddio ac Ailgylchu sy'n cynnwys 5 llyfr gwahanol. Mae pob llyfr yn cynnwys syniadau ymarferol am yr hyn y gall plant ei wneud yn y cartref a'r ysgol. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Metel

    Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Metel

    Cyfres sy'n dangos sut mae pobl o amgylch y byd yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu rhai o adnoddau pwysicaf y byd. Mae pob llyfr yn cyflwyno syniadau y gall plant eu gwneud yn y cartref a'r dosbarth. Rhan o'r gyfres Ailddefnyddio ac Ailgylchu sy'n cynnwys 5 llyfr gwahanol. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Cyfres Stori Fawr: Noson Ddychrynllyd

    Cyfres Stori Fawr: Noson Ddychrynllyd

    Llyfr darllen enfawr gyda lluniau lliwgar a deialog fyrlymus. Mae Popi, Bethan a Chloe yn hapus iawn achos mae nhw'n mynd i barti...Ond mae ffrind newydd yn mynd gyda nhw. Pwy? Darperir geirfa ar gefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mwy o wybodaeth
    £7.50

  8. Straeon Morgan Wyn

    Straeon Morgan Wyn

    Pedair stori sydd yn ein cludo i fyd dychymyg Morgan Wyn. Rhwng cloriau lliwgar ei hoff lyfr cawn gwrdd a'r cawr caredig, hedfan rhwng y ser gyda Nain Aberdaron, cyn glanio ar blaned ryfedd. Yna, yn ol adref at Mam a Dad, lle mae syrpreis arbennig yn disgwyl Morgan Wyn. Llyfr darllen lliwgar sy'n cynnwys pedair stori wreiddiol. Mae'r llyfr hwn yn rhan o brosiect ehangach sydd yn cynnwys: CD-ROM gyda 8 gweithgaredd rhyngweithiol i ddatblygu sgiliau iaith disgyblion y Cyfnod Sylfaen, taflenni gweithgaredd du a gwyn sydd yn addas i'w llungopio o Syniadau am weithgareddau ymarferol ar gyfer y dosbarth i ddatblygu sgiliau llafar, sgiliau creadigol a sgiliau arsylwi'r disgyblion. Mwy o wybodaeth
    £4.20

  9. Straeon Morgan Wyn - Llyfr Gweithgareddau

    Straeon Morgan Wyn - Llyfr Gweithgareddau

    Amrediad o weithgareddau difyr i ddatblygu sgiliau iaith wedi eu seilio ar gymeriadau lliwgar Straeon Morgan Wyn. Mae Morgan Wyn, Plant y Cnau a thrigolion planed y llythrennau yn siwr o ennyn diddordeb y plant wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau ieithyddol. Mae Straeon Morgan Wyn - Llyfr Gweithgareddau, yn cynnwys: Taflenni gweithgaredd du a gwyn sydd yn addas i'w llungopio Syniadau am weithgareddau ymarferol ar gyfer y dosbarth i ddatblygu sgiliau llafar, sgiliau creadigol a sgiliau sylwi'r disgyblion. Maer llyfr hwn yn rhan o brosiect ehangach sydd yn cynnwys: CD-ROM gyda 8 gweithgaredd rhyngweithiol i ddatblygu sgiliau iaith disgyblion y Cyfnod Sylfaen Llyfr darllen lliwgar sy'n cynnwys pedair stori wreiddiol. Mwy o wybodaeth
    £6.50

  10. Math@ebol: Mat a Sgrin 5 - Pecyn Dosbarth

    Math@ebol: Mat a Sgrin 5 - Pecyn Dosbarth

    Mae pob pecyn dosbarth yn cynnwys tri mat ar gyfer pob thema sef Graffiau, Adio a Thynnu, Camau Cyfrifo, Dau Ddimensiwn a Thri Dimensiwn. Mae modd ysgrifennu ar y matiau cyn eu glanhau gyda chlwtyn sych. Mae modd defnyddio'r CD ar fwrdd gwyn neu ar gyfrifiadur personol. Mae'r rhaglen yn caniatu i'r plant fwydo'r atebion a chael ymateb os ydyn nhwn gywir ai peidio. Mwy o wybodaeth
    £12.99

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 75