COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 20

  1. Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...

    Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.

    3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal

    Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!



    Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!

    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  2. Pecyn Cyfres Moli a Meg

    Pecyn Cyfres Moli a Meg

    Pecyn o wyth o lyfrau ffuglen ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu darllen Cymraeg. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau.

    Mae'r pecyn yn cynnwys:

    - Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Caffi

    - Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Parc
    - Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Fferm
    - Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Parti
    - Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Sinema
    - Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Gampfa
    - Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Siop
    - Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Ardd

    Mwy o wybodaeth
    £19.99

  3. Pecyn Cyfres Trio

    Pecyn Cyfres Trio

    Pecyn yn cynnwys Trio ac Antur y Mileniwm, Trio ac Antur y Castell a Trio ac Antur yr Eisteddfod. 

    Tair cyfrol newydd gan Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!

    Mwy o wybodaeth
    £18.00

  4. Atlas Mawr y Byd

    Atlas Mawr y Byd

    Yn llawn lluniau anhygoel o bobl, lleoedd a bywyd gwyllt, dyma atlas Cymraeg sy’n cynnig golwg gyffrous ar y byd heddiw. Rhwng y baneri lliwgar, y ffeithiau difyr a’r testun darllenadwy, mae Atlas Mawr y Byd yn llyfr gwych ar gyfer y cartref a’r ysgol.

    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  5. Spark Series

    Spark Series

    Cyfres o lyfrau Saesneg am Gymry sydd wedi llwyddo mewn gwahanol feysydd. Pel droedwyr, athletwyr, chwaraewyr rygbi, cantorion, actorion, anturiaethwyr, pobl busnes a chriwiau achub megis Ambiwlans Awyr Cymru. Llyfrau ysbrydoledig am arwyr o Gymru. Mae'r gyfres yn dysgu plant a phobl ifanc bod modd i bawb lwyddo gydag ychydig o waith caled. Mwy o wybodaeth
    £19.99

  6. Cyfres Stori Fawr: Yr Hen Dŷ

    Cyfres Stori Fawr: Yr Hen Dŷ

    Llyfr mawr llawn deialog fyrlymus a lluniau lliwgar. Darperir geirfa yng nghefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

    Un diwrnod, mae Gwen ac Ifan yn mynd i'r hen dŷ sbwci yn Stryd y Coed. Mae rhywbeth yn cuddio yno ...

    Mwy o wybodaeth
    £14.99

  7. Math@ebol: Datrys Problemau 2

    Math@ebol: Datrys Problemau 2

    Addasiad Cymraeg sy'n cynnig cyfle i ddisgyblion CA2 i ymarfer eu sgiliau mathemategol a datrys problemau. Mwy o wybodaeth
    £19.95

  8. Pecyn David Walliams i blant hŷn 2

    Pecyn David Walliams i blant hŷn 2

    Pecyn yn cynnwys Anti Afiach, Y Bachgen Mewn Ffrog ac Y Biliwnydd Bach, addasiadau o lyfrau poblogaidd David Walliams.

    Mwy o wybodaeth
    £18.99

  9. Cyfres Stori Fawr: Cris Croes

    Cyfres Stori Fawr: Cris Croes

    Llyfr mawr llawn deialog fyrlymus a lluniau lliwgar. Darperir geirfa ar gefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

    Mae Cris Croes yn hoffi bod yn wahanol. Mae o'n bwyta'n wahanol ac mae o'n gwisgo'n wahanol. Un diwrnod, mae Cris Croes yn mynd allan ar y beic ac mae'r dillad gwahanol yn help mawr i'r heddlu.

    Mwy o wybodaeth
    £14.99

  10. Pecyn Thematig Llythrennedd a Rhifedd: Dringo'r Ysgol - Cardiau

    Pecyn Thematig Llythrennedd a Rhifedd: Dringo'r Ysgol - Cardiau

    Pecyn cardiau thematig Cymraeg i hybu llythrennedd a rhifedd yn drawsgwricwlaidd ymysg disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3. Maent hefyd yn cynnig cymorth i feithrin sgiliau meddwl ac asesu. Mwy o wybodaeth
    £13.00

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 20