Pecyn yn cynnwys Trio ac Antur y Mileniwm, Trio ac Antur y Castell a Trio ac Antur yr Eisteddfod.
Tair cyfrol newydd gan Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!
Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...
Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.
3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal
Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!
Llyfr mawr llawn deialog fyrlymus a lluniau lliwgar. Darperir geirfa yng nghefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Un diwrnod, mae Gwen ac Ifan yn mynd i'r hen dŷ sbwci yn Stryd y Coed. Mae rhywbeth yn cuddio yno ...
Mwy o wybodaeth
Pecyn o 4 llyfr gwaith cartref i gynorthwyo disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gydau gwaith llythrennedd.
Gair o eglurhad!
Mae rhai o’r staplau yn y gyfres hon yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris o £15.96 i £12.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym wedi penderfynu cynnwys y gyfres fel cynnig arbennig.
Regular Price: £15.96
Pris Arbennig £12.99
Llyfr mawr llawn deialog fyrlymus a lluniau lliwgar. Darperir geirfa ar gefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Mae Cris Croes yn hoffi bod yn wahanol. Mae o'n bwyta'n wahanol ac mae o'n gwisgo'n wahanol. Un diwrnod, mae Cris Croes yn mynd allan ar y beic ac mae'r dillad gwahanol yn help mawr i'r heddlu.
Mwy o wybodaeth