COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

8 Eitem

  1. Y Côr Creaduriaid

    Y Côr Creaduriaid

    Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o The Creature Choir gan David Walliams. Stori ryfeddol am Walrws sydd wrth ei bodd yn canu. Yn anffodus, nid yw hi'n dda iawn! A phan mae ei chanu erchyll yn achosi eirlithriad mae'r morfilod eraill yn troi eu cefnau arni. Ond pan fyddwch chi'n canu fel pe na bai unrhyw un yn gwrando, weithiau maen nhw'n dechrau eich clywed chi...

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Yr Arth Aruthrol

    Yr Arth Aruthrol

    Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.

    Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.

    Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Jeronimo

    Jeronimo

    Addasiad o Geronimo, llyfr stori a llun gan David Walliams (darluniau gan Tony Ross).

    Mae Jeronimo yn bengwin bach sy’n ysu am gael hedfan. Gyda help llaw ei ffrindiau, mae’r pengwin bach yn darganfod fod unrhywbeth yn bosib!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Neidr yn yr Ysgol

    Neidr yn yr Ysgol

    Addasiad Eurig Salisbury o There's a Snake in my School gan David Walliams.

    Mae Mirain y prif gymeriad yn ferch ysgol sy'n hoffi bod yn wahanol. Ar ddiwrnod 'Dewch ag anifail anwes i'r ysgol', mae hi'n penderfynnu dod ag anifail gwahanol iawn gyda hi...

    Llyfr doniol gyda darluniau trawiadol gan yr enwog Tony Ross.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

    Out of stock

  5. Yr Eliffant Eithaf Digywilydd

    Yr Eliffant Eithaf Digywilydd

    Addasiad dwyieithog Gruffudd Antur o 'The Slightly Annoying Elephant' gan David Walliams.

    Wedi cwblhau ffurflen 'mabwysiadu eliffant', doedd Sam ddim yn disgwyl gweld eliffant go iawn ar garreg y drws, ond wedi iddo ddod i'r tŷ, mae'n un antur anferth ar ôl y llall!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Yr Hipo Cyntaf ar y Lleuad

    Yr Hipo Cyntaf ar y Lleuad

    Addasiad dwyieithog Gruffudd Antur o 'The First Hippo on the Moon' gan David Walliams.

    Stori llawn hiwmor am ddau hipo gwahanol iawn sy'n rhannu'r un freuddwyd, sef i fod yr hipo cyntaf i gyrraedd y lleuad!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Yr Arth a fu'n Bloeddio BW!

    Yr Arth a fu'n Bloeddio BW!

    Addasiad dwyieithog gan Eurig Salisbury o 'The Bear who went Boo' gan David Walliams Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Pecyn David Walliams i blant iau

    Pecyn David Walliams i blant iau

    Pecyn o ddau o'n teitlau mwyaf poblogaidd i blant iau gan yr awdur David Walliams.

    Mae'r pecyn yn cynnwys Yr Eliffant Eithaf Digywilydd ac Yr Arth a fu'n Bloeddio BW!

    Llyfrau stori dwyieithog gyda lluniau lliwgar gan yr arlunydd enwog Tony Ross.

    Mwy o wybodaeth
    £12.00

Set Ascending Direction

Grid List

8 Eitem