Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.
Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.
Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad o Geronimo, llyfr stori a llun gan David Walliams (darluniau gan Tony Ross).
Mae Jeronimo yn bengwin bach sy’n ysu am gael hedfan. Gyda help llaw ei ffrindiau, mae’r pengwin bach yn darganfod fod unrhywbeth yn bosib!
Mwy o wybodaeth
Addasiad Eurig Salisbury o There's a Snake in my School gan David Walliams.
Mae Mirain y prif gymeriad yn ferch ysgol sy'n hoffi bod yn wahanol. Ar ddiwrnod 'Dewch ag anifail anwes i'r ysgol', mae hi'n penderfynnu dod ag anifail gwahanol iawn gyda hi...
Llyfr doniol gyda darluniau trawiadol gan yr enwog Tony Ross.
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad dwyieithog Gruffudd Antur o 'The Slightly Annoying Elephant' gan David Walliams.
Wedi cwblhau ffurflen 'mabwysiadu eliffant', doedd Sam ddim yn disgwyl gweld eliffant go iawn ar garreg y drws, ond wedi iddo ddod i'r tŷ, mae'n un antur anferth ar ôl y llall!
Mwy o wybodaeth
Addasiad dwyieithog Gruffudd Antur o 'The First Hippo on the Moon' gan David Walliams.
Stori llawn hiwmor am ddau hipo gwahanol iawn sy'n rhannu'r un freuddwyd, sef i fod yr hipo cyntaf i gyrraedd y lleuad!
Mwy o wybodaeth
Pecyn o ddau o'n teitlau mwyaf poblogaidd i blant iau gan yr awdur David Walliams.
Mae'r pecyn yn cynnwys Yr Eliffant Eithaf Digywilydd ac Yr Arth Aruthrol!
Llyfrau stori dwyieithog gyda lluniau lliwgar gan yr arlunydd enwog Tony Ross.
Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o The Creature Choir gan David Walliams. Stori ryfeddol am Walrws sydd wrth ei bodd yn canu. Yn anffodus, nid yw hi'n dda iawn! A phan mae ei chanu erchyll yn achosi eirlithriad mae'r morfilod eraill yn troi eu cefnau arni. Ond pan fyddwch chi'n canu fel pe na bai unrhyw un yn gwrando, weithiau maen nhw'n dechrau eich clywed chi...
Mwy o wybodaeth