COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 20

  1. 100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    Llyfr bwrdd lliwgar sy'n rhan o'n Cyfres 100 i blant ifanc. Dyma lyfr defnyddiol a lliwgar sy'n helpu'r plentyn i ddysgu geirfa syml, lliwiau a siapiau. Llyfr gwych i baratoi'r plentyn ar gyfer yr ysgol. Hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Alphaprints - 123

    Alphaprints - 123

    Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar gyda delweddau trawiadol sydd wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes. Llyfrau stori gyda thestun byr a syml. Yn y llyfr hwn bydd cyfle i'r plant ddysgu cyfri a dod i adnabod y rhifolion. Llyfrau poblogaidd a hardd. Anrheg delfrydol I fabanod a phlant cyn oed ysgol. Dwyieithog. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  3. Alphaprints: Deinosiapiau

    Alphaprints: Deinosiapiau

    Llyfr poblogaidd arall yng nghyfres Alphaprints. Dyma lyfr bwrdd lliwgar a doniol am griw o ddeinosoriaid difyr!

    Mae pob deinosor yn cynrychioli siap gwahanol, ac mae'n ffordd wych o ddysgu'r plant am y siapiau mwyaf cyffredin.

    Mae'r darluniau'n drawiadol, ac wedi eu creu gydag olion bysedd. Llyfr deniadol fydd yn siwr o blesio'r plant ifanc dro ar ôl tro.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  4. Alphaprints - Lliwiau

    Alphaprints - Lliwiau

    Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar a chyfoes, i blant bach cyn oed ysgol. Gyda delweddau trawiadol wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes a thestun crynno a syml, dyma gyfres sy'n siwr o ysbrydoli diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc. Lliwiau yw ffocws y llyfr hwn, ac mae'r delweddau a'r tudalennau sgleiniog yn ffordd hwyliog ac effeithiol o addysgu'r plant a'u paratoi ar gyfer yr ysgol. Mae llyfrau Alphaprints yn anrhegion arbennig a defnyddiol i blant bach. Dwyieithog. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  5. Mathiadur

    Mathiadur

    Geiriadur mathemateg sy'n diffinio dros 300 o'r geiriau mathemategol mwyaf allweddol ar gyfer disgyblion cynradd a Chyfnod Allweddol 2.

    Canllaw I ddisgyblion ddefnyddio iaith fathemategol gywir, nodiant, symbolau achonfensiynau wrth siarad am eu gwaith a'i egluro i eraill. Llyfr delfrydol ar gyfer plant, athrawon a rhieni.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Cardiau Fflach Rhifau Lleu Llygoden

    Cardiau Fflach Rhifau Lleu Llygoden

    Pecyn o gardiau fflach Lleu Llygoden sy'n helpu plant i gyfri ac ysgrifennu rhifau o 1 - 20.

    Gellir sychu'r cardiau i'w defnyddio dro ar ôl tro. Mae'r cardiau, pen a chlwtyn sychu wedi'i pecynnu mewn bocs bach defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer siwrnai hir.

    Cyfarwyddiadau dwyieithog.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  7. Fy Llyfr Ysgrifennu Hud: Ysgrifennu Geiriau Cyntaf

    Fy Llyfr Ysgrifennu Hud: Ysgrifennu Geiriau Cyntaf

    Llyfr sy'n galluogi'r plentyn i ymarfer ysgrifennu ei eiriau cyntaf gan ddefnyddio pen a bwrdd hud. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Tablau Lluosi: Codwch y Fflap

    Tablau Lluosi: Codwch y Fflap

    Llyfr mathemateg hynod o ddefnyddiol ar gyfer plant sy'n dysgu tablau yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 2.

    Mae Tablau Lluosi yn cynnwys lluniau ar themâu gwahanol a chwestiynau fydd yn dysgu plant pam fod tablau lluosi yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

    Out of stock

  9. Siapiau Magnetig

    Siapiau Magnetig

    Llyfr sy'n cyflwyno siapiau mewn ffordd hwyliog. Bydd plant wrth eu bodd yn dod i adnabod siapiau wrth osod y siapiau magnetig ar y tudalennau magnetig i greu pob math o ddarluniau llwigar.

    Llyfr gweithgareddau sy'n cynnig oriau o hwyl ac sy'n annog cyd-chwarae hapus.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  10. Tic! Toc!  Dweud yr Amser

    Tic! Toc! Dweud yr Amser

    Llyfr gweithgareddau lliwgar sy'n helpu plant i ddysgu dweud yr amser. Llyfr defnyddiol ar gyfer y cartref ar ysgol sy'n cynnwys sticeri a phoster mawr. Mwy o wybodaeth
    £4.99

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 20