Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).
Mwy o wybodaeth
Two plays by the acclaimed playwright Siôn Eirian inspired by Blodeuwedd and Siwan by the renowned Welsh language dramatist, Saunders Lewis.
Mwy o wybodaeth
Cyfieithiad gan Emyr Edwards o ddrama Tennessee Williams, The Rose Tattoo. Drama sy'n addas ar gyfer ysgolion, colegau a chwmnïau drama.
Er bod Rhith y Rhosyn yn cael ei hystyried yn gomedi, eto i gyd mae ynddi elfennau o drasiedi bywyd. Mae'n cydnabod pwer dinistriol unigrwydd ar modd y bydd pobl yn dianc rhag ymosodiadau'r bywyd cymdeithasol sydd o'u cwmpas, a'r un pryd yn cynnig ymsuddo mewn rhywioldeb fel ateb iw problemau personol.
Mwy o wybodaeth
Drama ddirdynnol gan Dewi Wyn Williams am dad a mab yn cyfarfod am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd. Nid yw'n gyfarfyddiad hawdd ... na chwbl bleserus. Mae cyfrinachau wedi eu claddu'n ddwfn a gwirioneddau anghyfforddus yn cuddio yng nghilfachau'r cof. Wrth i gymylau duon eu gorffennol gilio'n raddol, cawn olwg ar un o gwestiynau mawr y ddynoliaeth, sef ai magwraeth neu gynefin sydd wrth wraidd cymeriad dyn.
Mwy o wybodaeth
Regular Price: £5.99
Pris Arbennig £4.19
Drama bwerus am effaith rhyfel.
Mae'n ddiwedd 2014, yn dilyn ymadawiad terfynol byddinoedd Ei Mawrhydi o dalaith Helmand, Afghanistan. Daw tri cyn-filwr at ei gilydd i hel atgofion, ond o dipyn i beth fe ddaw hi'n amlwg na fydd pethau byth yr un fath eto.
Mwy o wybodaeth
Dyma ddrama afaelgar am sefyllfa ddirdynnol tri ffrind 16 oed sy'n ceisio dygymod a'u bywydau gwahanol.
Dyw Elin ddim yn ffitio i mewn. Mae hi'n wahanol i'w mam a'i thad parchus, dosbarth canol; mae hi'n wahanol i Rhys, ei ffrind cydwybodol. Ond gyda Wes, mae pethau'n wahanol.
Fersiwn Saesneg hefyd ar gael.
Mwy o wybodaeth
Cyhoeddiad o sgript drama wreiddiol Dewi Wyn Williams, ar gyfer taith Theatr Bara Caws, Tachwedd - Rhagfyr 2015.
Drama newydd a heriol am Salwch Meddwl gan enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar 2014.
Mae'r drama'n digwydd ym mhen Oswald Pritchard. Mae Os wedi colli ei waith, ac yn ofni colli cariad ei wraig, Mona. Cawn fynd yn ei gwmni i weld ei gyn-fod Peter a'i seiciatrydd Dr King, a chael cipolwg ar ei fywyd priodasol anghonfensiynnol wrth iddo bendilio o un emosiwn i'r llall gan gynnig syniadau bachog a difyr am y byd a'i bethau, a hynny mewn iaith rywiog, gref.
Mwy o wybodaeth