COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 36

  1. Helfa Drysor ar y Fferm

    Helfa Drysor ar y Fferm

    Llyfr bwrdd dwyieithog i fabanod a phlant bach, gyda thudalennau sy'n agor allan yn fawr. Dyma gyfle gwych i'r plentyn chwilio, cyfri a mwynhau at y fferm. Llyfr i'w drysori fydd yn annog diddordeb plant mewn llyfrau. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Straeon Morgan Wyn - Llyfr Gweithgareddau

    Straeon Morgan Wyn - Llyfr Gweithgareddau

    Amrediad o weithgareddau difyr i ddatblygu sgiliau iaith wedi eu seilio ar gymeriadau lliwgar Straeon Morgan Wyn. Mae Morgan Wyn, Plant y Cnau a thrigolion planed y llythrennau yn siwr o ennyn diddordeb y plant wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau ieithyddol. Mae Straeon Morgan Wyn - Llyfr Gweithgareddau, yn cynnwys: Taflenni gweithgaredd du a gwyn sydd yn addas i'w llungopio Syniadau am weithgareddau ymarferol ar gyfer y dosbarth i ddatblygu sgiliau llafar, sgiliau creadigol a sgiliau sylwi'r disgyblion. Maer llyfr hwn yn rhan o brosiect ehangach sydd yn cynnwys: CD-ROM gyda 8 gweithgaredd rhyngweithiol i ddatblygu sgiliau iaith disgyblion y Cyfnod Sylfaen Llyfr darllen lliwgar sy'n cynnwys pedair stori wreiddiol. Mwy o wybodaeth
    £6.50

  3. Bwyta'n Iach: Hwyl wrth Goginio!

    Bwyta'n Iach: Hwyl wrth Goginio!

    Llyfr sy'n cynnwys dros 100 o ryseitiau blasus sy'n hawdd eu dilyn.

    Mae'n cynnig cyngor ar sut i goginio hen ffefrynnau neu bryd gwahanol.Ceir gwybodaeth ar faetheg yn ogystal a ffeithiau diddorol.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

    Out of stock

  4. Olion Traed Bach: Beth sy'n Wyllt yn y Goedwig Law?

    Olion Traed Bach: Beth sy'n Wyllt yn y Goedwig Law?

    Llyfr lliwio a gweithgareddau sy'n addysgu plentyn am fywyd gwyllt a'r amgylchedd.

    Mae Olion Traed Bach yn cynnig cyfle i blant i edrych ar amgylcheddau gwahanol. Mae cyfle i'r plant i liwio a gwneud amrywiol weithgareddau. Cyfle i edrych ar y pethau hynny sy'n peryglu dyfodol nifer o anifeiliaid prin.

    Mwy o wybodaeth
    £3.99

  5. Amser Magnetig

    Amser Magnetig

    Ffordd hwyliog i ddysgu plant sut i ddweud yr amser. Bydd plant wrth eu boddau yn gosod y clociau magnetig ar y tudalennau perthnasol er mwyn sicrhau bod yr amser yn gywir ar bob darlun.

    Llyfr sy'n cynnig oriau o hwyl ac yn annog plant i ddysgu sut i ddweud yr amser.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  6. Help gyda Gwaith Cartref - Pecyn Llythrennedd CA2

    Help gyda Gwaith Cartref - Pecyn Llythrennedd CA2

    Pecyn o 4 llyfr gwaith cartref i gynorthwyo disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gydau gwaith llythrennedd.

    Gair o eglurhad!
    Mae rhai o’r staplau yn y gyfres hon yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris o £15.96 i £12.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym wedi penderfynu cynnwys y gyfres fel cynnig arbennig.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £15.96

    Pris Arbennig £12.99

  7. Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Metel

    Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Metel

    Cyfres sy'n dangos sut mae pobl o amgylch y byd yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu rhai o adnoddau pwysicaf y byd. Mae pob llyfr yn cyflwyno syniadau y gall plant eu gwneud yn y cartref a'r dosbarth. Rhan o'r gyfres Ailddefnyddio ac Ailgylchu sy'n cynnwys 5 llyfr gwahanol. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Drysfa: Sgwennu a Sychu

    Drysfa: Sgwennu a Sychu

    Llyfr sgwennu a sychu sy'n gallu cael ei ddefnyddio dro ar ôl tro. Yn cynnwys pen ysgrifennu. 

    Mae'r llyfryn hyfryd hwn yn cynnig dull perffaith o ddysgu trin a thrafod pen sgwennu.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  9. Tablau Lluosi: Codwch y Fflap

    Tablau Lluosi: Codwch y Fflap

    Llyfr mathemateg hynod o ddefnyddiol ar gyfer plant sy'n dysgu tablau yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 2.

    Mae Tablau Lluosi yn cynnwys lluniau ar themâu gwahanol a chwestiynau fydd yn dysgu plant pam fod tablau lluosi yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

    Out of stock

  10. Môr-ladron - Llyfr Gweithgareddau a Sticeri

    Môr-ladron - Llyfr Gweithgareddau a Sticeri

    Ahoy! Dyma lyfr gweithgareddau dwyieithog fydd wrth ddant pob mor-leidr! Dewch i chwarae posau, arlunio, chwarae efo'r sticeri a mwy!Llyfr sy'n cynnig oriau o HWYL a chwarae creadigol. Mynd i barti mor-leidr? Dyma anrheg gwych i'r plant! Mwy o wybodaeth
    £3.99

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 36