COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 53

  1. Gemau'r Parot Piws: Bocs 2

    Gemau'r Parot Piws: Bocs 2

    Bocs sy'n cynnwys 4 gêm sy'n helpu i feithrin a datblygu iaith a sgiliau meddwl. Odl Odl, Gair am Aur, Dyma Fo Dyma Fe a Trio! Trio! Trio! Addas ar gyfer chwaraewyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith. Mwy o wybodaeth
    £21.98

  2. 20 Rhif Cyntaf

    20 Rhif Cyntaf

    Llyfr bwrdd lliwgar sy'n cyflwyno rhifau o 1 i 20.

    Mae'r tudalennau'n cynnwys delweddau cyfoes a thrawiadol gyda rhifau a rhifolion yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n lyfr rhyngweithiol sy'n gofyn cwestiynnau ac mae'n rhaid codi'r fflap i ddarganfod yr ateb. Llyfr sy'n helpu teuluoedd i ddatblygu sgiliau cyfri, datblygu sgiliau siarad a sgiliau cyd symud llygad y plentyn.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Cyfres Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Plastigion

    Cyfres Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Plastigion

    Sut mae pobl o amgylch y byd yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu plastigion. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Pecyn Contrasting Localities yn Saesneg

    Pecyn Contrasting Localities yn Saesneg

    Datblygwyd y pecyn hwn i gefnogi dysgu sgiliau Daearyddol yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae'r pecyn yn cynnwys pedwar llyfr sy'n canolbwyntio ar bedwar lleoliad gwahanol; Botswana, Patagonia, Gwlad yr Ia, a Pharis. Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys DVD o adnoddau ychwanegol a llawlyfr i athrawon. Nod y pecyn yw; Datblygu ymwybyddiaeth a synnwyr plant o le. Datblygu sgiliau daearyddol. Hybu sgiliau ymholi a meddwl. Hyrwyddo ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang a chefnogi Dysgu Annibynnol. Mwy o wybodaeth
    £43.98

  5. Ymlaen a Ni: Mathemateg Lefel 3-4

    Ymlaen a Ni: Mathemateg Lefel 3-4

    Gwerslyfr Mathemateg ar gyfer cynorthwyo disgyblion CA2/3, yn benodol i gynyddu sgiliau rhifedd disgyblion o Lefel 3 i Lefel 4. Addasiad Cymraeg o 'FastForward Maths'. Mae llawlyfr athrawon hefyd ar gael. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  6. Math@ebol: Mat a Sgrin 3

    Math@ebol: Mat a Sgrin 3

    Matiau mathemateg a CD rhyngweithiol ar gyfer y bwrdd gwyn. Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer astudio Lleoli Rhif, Lluosi a Rhannu a Ffracsiynau Cywerth. Matiau A3 wedi'u lamineiddio sy'n hybu'r gwaith o wella sgiliau mathemategol. Matiau dwy ochrog gyda gwybodaeth fathemategol ar un ochr ac ymarferion ar yr ochr arall. Addas ar gyfer datblygu Sgiliau Sylfaenol mewn mathemateg. Mae modd ysgrifennu ar y matiau cyn eu glanhau gyda chlwtyn sych. Mae modd defnyddio'r CD ar fwrdd gwyn neu ar gyfrifiadur personol. Mae'r rhaglen yn caniatu i'r plant fwydo'r atebion a chael ymateb i weld a ydyn nhw'n gywir ai pheidio. Mwy o wybodaeth
    £14.99

  7. Pos y Dydd

    Pos y Dydd

    Llyfr maint poced yn cynnwys 180 o bosau mathemategol. Mwy o wybodaeth
    £4.95

  8. 100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    Llyfr bwrdd lliwgar sy'n rhan o'n Cyfres 100 i blant ifanc. Dyma lyfr defnyddiol a lliwgar sy'n helpu'r plentyn i ddysgu geirfa syml, lliwiau a siapiau. Llyfr gwych i baratoi'r plentyn ar gyfer yr ysgol. Hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  9. Help gyda Gwaith Cartref: Sillafu

    Help gyda Gwaith Cartref: Sillafu

    Llyfr i gefnogi plant cynradd gyda'u sgiliau sillafu. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  10. Help gyda Gwaith Cartref: Adio a Thynnu

    Help gyda Gwaith Cartref: Adio a Thynnu

    Llyfr i gefnogi plant gyda'u gwaith ysgol, i fagu hyder ynddynt ac i atgyfnerthu eu dealltwriaeth o sgiliau sylfaenol Rhifedd, yn arbennig elfennau Adio a Thynnu ar gyfer plant cynradd. Cynhwysir sticeri i'w gludo sy'n helpu'r plentyn i feithrin sgiliau adnabod a deall, ac mae is-destun Saesneg yn galluogi rhieni di-Gymraeg i helpu eu plant.

    Gair o eglurhad!
    Mae rhai o’r staplau ar y llyfr hwn yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris i adlewyrchu hynny sef o £3.99 i £2.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym yn parhau i gynnig y llyfr o fewn ein rhestr o gyhoeddiadau addysgol.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £3.99

    Pris Arbennig £2.99

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 53